2021 Rhif 967 (Cy. 227)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 30 Awst 2021.

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiadau i reoliad 12E3.

(1)

Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Ym mharagraff (2)(e)—

(a)

ym mharagraff (i), yn lle “2020” rhodder “2021”;

(b)

ym mharagraff (ii), yn lle “ysgol fyrddio yng Nghymru y bwriedir darparu addysg a llety ar gyfer P ynddi” rhodder “sefydliad addysgol yng Nghymru y bwriedir darparu addysg a llety ar gyfer P ynddo”.

(3)

Ym mharagraff (5)—

(a)

yn is-baragraff (a), yn lle “ystyr “ysgol fyrddio” yw ysgol neu goleg” rhodder “ystyr “sefydliad addysgol” yw ysgol, coleg neu ddarparwr addysg uwch”;

(b)

ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

“(d)

mae i “darparwr addysg uwch” yr ystyr a roddir i “higher education provider” yn adran 83(1) o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 20173.”

Diwygiadau i Atodlen 34.

Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

“Canada”

“Denmarc”

“Y Ffindir”

“Liechtenstein”

“Lithwania”

“Y Swistir”

“Ynysoedd Açores”.

Diwygiadau i Atodlen 3A5.

Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

“Gwlad Thai”

“Montenegro”.

Diwygiad i Atodlen 46.

Yn Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig), ar y diwedd mewnosoder—

“Cystadleuaeth y Champions Hockey League

Rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd FIH i Ddynion (grŵp Ewropeaidd)”.

Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Mae rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn atal personau nad ydynt yn esempt rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau hynny o fewn 10 niwrnod i gyrraedd.

Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 12E er mwyn caniatáu i fyfyrwyr penodol o dan 18 oed sydd wedi bod yn flaenorol mewn gwlad a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gael mynediad i Gymru. Mae’r personau hynny yn ddarostyngedig i ofynion ynysu penodol.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu Canada, Denmarc, y Ffindir, Liechtenstein, Lithwania, y Swistir, ac ynysoedd Açores at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu Gwlad Thai a Montenegro at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol.

Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn diweddaru’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig. Caiff unigolyn adael ynysiad er mwyn cystadlu neu hyfforddi mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4, neu er mwyn darparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu mewn digwyddiad o’r fath.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.