Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020 (O.S. 2020/89 (Cy. 13)) (“Rheoliadau 2020”) i gymhwyso’r gyfraith a oedd yn bodoli cyn 21 Chwefror 2021 mewn perthynas â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein o 16 Medi 2021 tan 22 Chwefror 2022.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2020 i ddatgymhwyso rheoliadau 2 i 4 o Reoliadau 2020 o fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein.
Mae rheoliad 2 hefyd yn mewnosod Atodlen newydd 4 yn Rheoliadau 2020. Mae Atodlen newydd 4 yn cynnwys y gyfundrefn reoleiddiol a oedd yn gymwys i fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein cyn 21 Chwefror 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.