RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 29 Ionawr 2021.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(1);

(b)ystyr y “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 29.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)