NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609) (Cy. 335)) (y “Rheoliadau Cyfyngiadau”).

Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Mae Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn rhestru’r gwledydd hynny a’r tiriogaethau hynny sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yn rhinwedd rheoliadau 12E a 12F o’r Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 12E yn darparu, pan fo person wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth benodedig a restrir yn Atodlen 3A, ei bod yn ofynnol i’r person hwnnw ac aelodau ei aelwyd ynysu. At hynny, nid yw’r categorïau o bersonau esempt fel y’u disgrifir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys, a chaiff person adael ynysiad o dan amgylchiadau mwy cyfyngedig. Mae rheoliad 12F yn gosod cyfyngiadau ar awyrennau a llestrau sy’n cyrraedd yn uniongyrchol o wlad a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 2 yn ychwanegu’r Emiraethau Arabaidd Unedig, Gweriniaeth Burundi a Gweriniaeth Rwanda at y rhestr o wledydd a thiriogaethau yn Atodlen 3A. Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas ag ychwanegu’r gwledydd hynny at y rhestr o wledydd a thiriogaethau yn Atodlen 3A. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Cyfyngiadau er mwyn gosod gofynion ynysu llymach ar bobl sydd wedi bod yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Gweriniaeth Burundi neu Weriniaeth Rwanda o fewn y cyfnod o 10 niwrnod cyn 4.00 a.m. ar 29 Ionawr 2021 ac ar unrhyw un ar yr un aelwyd â phobl o’r fath. Mae’r rhain yn wledydd lle y ceir tystiolaeth o ledaeniad cymunedol amrywiolyn newydd o’r coronafeirws.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.