Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 20212.

(1)

Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 20212 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn erthygl 1(2), yn y lle priodol mewnosoder—

“ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;”

“mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 5793 o Ddeddf 1996;”

“ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;”.

(3)

Yn erthygl 4, o flaen paragraff (a) mewnosoder—

“(za)

sydd ym mlwyddyn 11;

(zb)

nad yw mewn ysgol ac a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022;”.

(4)

Yn erthygl 6, ar ôl “o fewn” mewnosoder “y naill neu’r llall o’r paragraffau yn”.

(5)

Yn lle erthygl 7 rhodder—

“7.

Person y mae cynllun datblygu unigol—

(a)

yn cael ei lunio o dan adran 40 neu ei gadw o dan adran 42 o’r Ddeddf mewn perthynas ag ef;

(b)

yn cael ei lunio neu ei gynnal o dan adran 14 o’r Ddeddf o ganlyniad i reoliad 23 o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 20214.”