Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”). Mae Deddf 2018 yn diwygio’r gyfraith ar addysg a hyfforddiant ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Dribiwnlys Addysg Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth. Mae rheoliad 7 yn dirymu Rheoliadau a wnaed o dan bwerau sydd wedi eu diwygio fel nad ydynt mwyach yn gymwys o ran Cymru, neu sydd wedi eu diddymu, yn ôl-weithredol, gan adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2018. Mae erthygl 8 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)) yn dwyn adrannau 57 a 58 i rym ar 1 Medi 2021, sef yr un diwrnod ag y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.