2021 Rhif 933 (Cy. 213)
Addysg, Cymru

Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 97(1) a (2) a 98(2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20181, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn1.

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.

Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 20062.

(1)

Mae’r Atodlen i Reoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 20062 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar ôl is-baragraff (b) o baragraff 1, mewnosoder—

“(ba)

adran 48(1) i (5) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20183;”.

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 20103.

(1)

Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 20104 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn erthygl 14(2)—

(a)

ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder “neu”;

(b)

hepgorer is-baragraff (iii) a’r “neu” o’i flaen.

Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 20134.

(1)

Mae Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 20135 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2(1)—

(a)

yn y lleoedd priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—
“ystyr “DADYTA 2018” (“the ALNETA 2018”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20186;”;
“mae i “anghenion addysgol arbennig”, mewn perthynas â phlentyn y mae Pennod 1 o Ran 4 o DA 19967 yn parhau i fod yn gymwys iddo, yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o DA 1996;”;

“mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”), mewn perthynas â phlentyn y mae Rhan 2 o DADYTA 2018 yn gymwys iddo, yr ystyr a roddir gan adran 2 o DADYTA 2018;”;

“ystyr “plentyn sydd â chynllun datblygu unigol” (“child with an individual development plan”) yw plentyn y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal mewn perthynas ag ef o dan Ran 2 o DADYTA 2018;”;

(b)

yn y diffiniad o “addysg addas”, ar ôl “arbennig” mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol (yn ôl y digwydd)”.

(3)

Yn yr Atodlen—

(a)

ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

“2A.

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blentyn sydd â chynllun datblygu unigol a dderbyniwyd i’r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol, o ganlyniad i enwi’r ysgol yng nghynllun datblygu unigol y plentyn o dan adran 48 o DADYTA 2018.”;

(b)

ym mharagraff 14, ar ôl “addysgol arbennig” mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol (yn ôl y digwydd)”.

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 20155.

(1)

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 20158 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “ysgol arbennig”, yn lle “337(1)” rhodder “337”.

Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 20156.

(1)

Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 20159 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 3—

(a)

hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (2)(c)(iii);

(b)

yn lle paragraff (2)(c)(iv) rhodder—

“(iv)

pan gymeradwywyd yr ysgol o dan adran 347 o Ddeddf Addysg 199610 (cymeradwyo ysgolion annibynnol sy’n darparu addysg arbennig) cyn 1 Medi 2021 a’i bod yn parhau i fod wedi ei chymeradwyo yn union cyn y dyddiad hwnnw, awdurdod lleol sy’n talu’r ffioedd mewn cysylltiad â phresenoldeb disgybl cofrestredig yn yr ysgol y mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg 199611 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag ef; a

(v)

pan fo gan ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gynllun datblygu unigol y mae’r ysgol wedi ei henwi ynddo o dan adran 14(6) neu 19(4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 201812, yr awdurdod lleol sy’n cynnal y cynllun datblygu unigol o dan yr adran 14 neu 19 honno;”.

Dirymiadau canlyniadol7.

O ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed i Ddeddf Addysg 199613 gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, mae’r canlynol wedi eu dirymu o ran Cymru—

(a)

Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 199414;

(b)

Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 199415;

(c)

Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) (Diwygio) 199816;

(d)

Rheoliadau Addysg (Offer Peryglus mewn Ysgolion) (Dileu’r Cyfyngiadau ar Ddefnydd) (Cymru) 201717.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”). Mae Deddf 2018 yn diwygio’r gyfraith ar addysg a hyfforddiant ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Dribiwnlys Addysg Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth. Mae rheoliad 7 yn dirymu Rheoliadau a wnaed o dan bwerau sydd wedi eu diwygio fel nad ydynt mwyach yn gymwys o ran Cymru, neu sydd wedi eu diddymu, yn ôl-weithredol, gan adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2018. Mae erthygl 8 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)) yn dwyn adrannau 57 a 58 i rym ar 1 Medi 2021, sef yr un diwrnod ag y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.