NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r Rheoliadau yn diwygio’r prif Reoliadau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru o 6.00 a.m. ar 7 Awst 2021. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys. Yr effaith yw:

  • nad oes unrhyw derfynau penodol ar nifer y bobl a gaiff ymgynnull, gan gynnwys mewn cartrefi preifat ac mewn mannau cyhoeddus;

  • nad oes unrhyw derfynau penodol ar nifer y bobl a gaiff fynd i ddigwyddiadau rheoleiddiedig ar unrhyw adeg;

  • nad oes unrhyw ofynion i unrhyw fathau penodol o fusnesau neu wasanaethau gau.

Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion mewn rhannau eraill (ar wahân i Atodlenni 1 i 4) o’r prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys, gan gynnwys gofynion ar bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd rheoleiddiedig i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mangreoedd, a gofynion i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn mannau cyhoeddus penodol o dan do.

Er gwaethaf llacio’r rheolau ar bobl yn ymgynnull ac yn mynd i ddigwyddiadau, mae’r mesurau rhesymol (o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau) sy’n dal i fod yn ofynnol mewn mangre reoleiddiedig yn golygu y gall fod angen i’r rheini sy’n gyfrifol am y fangre bennu terfynau ar nifer y bobl a gaiff ymgynnull, ac ar gapasiti digwyddiadau.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r gofyniad yn Rhan 3 o’r prif Reoliadau i berson ynysu ar ôl cael ei hysbysu gan swyddog olrhain cysylltiadau ei fod wedi cael cysylltiad agos â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws. Mae’r Rheoliadau yn mewnosod esemptiad newydd yn rheoliad 10(5) o’r prif Reoliadau i ddarparu nad yw’n ofynnol mwyach i oedolion ynysu ar ôl cael hysbysiad o’r fath os ydynt wedi cwblhau, yn y Deyrnas Unedig, gwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddynt gael y cysylltiad agos, neu os ydynt yn cymryd rhan mewn treial clinigol yn y Deyrnas Unedig o frechlyn yn erbyn y coronafeirws. Mae’r diwygiadau hefyd yn hepgor rheoliad 9 o’r prif Reoliadau fel nad oes gofyniad mwyach i bersonau o dan 18 oed ynysu ar ôl cael hysbysiad o’r fath.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn mewnosod rheoliad newydd 10A yn y prif Reoliadau i ddarparu, pan fo’n ofynnol i blentyn, neu berson y mae’r esemptiad newydd yn rheoliad 10(5) yn gymwys iddo, ynysu yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym ar ôl cael ei hysbysu ei fod wedi cael cysylltiad agos â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws, y daw’r gofyniad i ynysu i ben ar ddechrau’r diwrnod ar 7 Awst 2021.

Nid oes unrhyw newid i’r gofynion i bersonau ynysu ar ôl cael eu hysbysu eu bod wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio’r prif Reoliadau er mwyn—

  • darparu y bydd y prif Reoliadau yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 26 Tachwedd 2021 (yn hytrach na 27 Awst 2021);

  • dileu’r gofyniad penodol yn rheoliad 16 o’r prif Reoliadau i’r person sy’n gyfrifol am fangre reoleiddiedig gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau sydd o dan do yn y fangre (ond rhaid i’r person sy’n gyfrifol barhau i gydymffurfio â gweddill rheoliad 16 drwy gymryd pob mesur rhesymol, yn seiliedig ar asesiad risg, i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre, a all gynnwys cadw pellter corfforol);

  • dileu’r gofynion penodol yn rheoliadau 17 a 17A o’r prif Reoliadau i bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd trwyddedig a mangreoedd manwerthu gymryd mesurau penodol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws (ond unwaith eto, rhaid i’r personau hynny barhau i gydymffurfio â rheoliad 16 o’r prif Reoliadau, a gall y mesurau y gall fod yn rhesymol eu cymryd o dan y rheoliad hwnnw gynnwys mesurau yr oedd yn ofynnol yn benodol iddynt gael eu cymryd o’r blaen o dan reoliad 17 (er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid eistedd pan weinir bwyd neu ddiod iddynt mewn mangre drwyddedig) neu reoliad 17A (er enghraifft, cyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd mewn mangre fanwerthu ar unrhyw un adeg));

  • dileu’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd cyhoeddus o dan do mewn mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre (ond pan fo mathau gwahanol o fusnesau yn gweithredu o fangreoedd o’r fath hefyd, rhaid gwisgo gorchuddion wyneb o hyd yn y rhannau hynny o’r mangreoedd lle na werthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill, gan gynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a nodir uchod.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 235)) i newid eu dyddiad dod i ben i 26 Tachwedd 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.