Offerynnau Statudol Cymru
2021 Rhif 906 (Cy. 206)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021
Gwnaed
26 Gorffennaf 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1) (“Deddf 2014”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn addas ynghylch drafft o’r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (“y Cod Ymarfer”).
Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r Cod Ymarfer gerbron Senedd Cymru(2) ar 24 Mawrth 2021.
Yn unol ag adran 146(3) o Ddeddf 2014, o fewn cyfnod o 40 niwrnod, ni phenderfynodd Senedd Cymru beidio â chymeradwyo’r Cod Ymarfer drafft, a dyroddwyd y Cod Ymarfer ar ffurf y drafft hwnnw.
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw’r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, y gosodwyd drafft ohono gerbron Senedd Cymru ar 24 Mawrth 2021 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 16 Gorffennaf 2021.
Y diwrnod penodedig
2. Y diwrnod penodedig i’r Cod Ymarfer ddod i rym yw 1 Medi 2021.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Gorffennaf 2021
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Medi 2021 fel y diwrnod y daw’r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth i rym (“y Cod Ymarfer”).
Mae’r Cod Ymarfer wedi ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 145(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).
Mae adran 145(3) o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145(1) a rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo.
Mae’r Cod Ymarfer wedi ei ddyroddi ochr yn ochr â chanllawiau o dan adran 169 o Ddeddf 2014 (mewn perthynas ag arfer eu priod swyddogaethau gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn unol â threfniadau partneriaeth a wneir o dan Ran 8 o Ddeddf 2014) a chanllawiau o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (mewn perthynas ag arfer swyddogaethau perthnasol byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau GIG).
2014 dccc 4 (“Deddf 2014”).
Mae unrhyw gyfeiriad yn Neddf 2014 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
