2021 Rhif 9 (Cy. 4)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 19831 ac adrannau 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19982 sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3, a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20154 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: