Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 88 (Cy. 25)

Llywodraeth Leol, Cymru

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021

Gwnaed

27 Ionawr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

28 Ionawr 2021

Yn dod i rym

29 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 67 ac 68 o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ionawr 2021.

Diwygio Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “y cyfnod perthnasol”, yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “28 Chwefror 2021”.

(3Yn rheoliad 3(1), yn lle “1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021” rhodder “1 Mawrth 2021 ac sy’n dod i ben ar 6 Mai 2021”.

(4Yn rheoliad 4(1), yn lle “1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021” rhodder “1 Mawrth 2021 ac sy’n dod i ben ar 6 Mai 2021”.

(5Yn rheoliad 5(1)(a), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “28 Chwefror 2021”.

Diwygio Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020

3.—(1Mae Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3—

(a)yn y diffiniad o “pleidlais ohiriedig”, yn lle “1 Chwefror 2021 ac yn dod i ben ar 16 Ebrill 2021” rhodder “1 Mawrth 2021 ac yn dod i ben ar 6 Mai 2021”, a

(b)yn y diffiniad o “y cyfnod perthnasol”, yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “28 Chwefror 2021”.

(3Yn rheoliad 9(1), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “28 Chwefror 2021”.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gohirio ymhellach is-etholiadau llywodraeth leol penodol o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.

Roedd yr is-etholiadau gohiriedig hyn i fod i gael eu cynnal yn ystod y cyfnod rhwng 1 Chwefror 2021 a 16 Ebrill 2021, ond byddant yn digwydd yn awr yn ystod y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2021 a 6 Mai 2021.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r dyddiadau perthnasol yn Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r dyddiadau perthnasol yn Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.