(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae rheoliad 2A o’r Rheoliadau hynny yn cynnwys esemptiadau i ofynion ynysu a gofynion profi penodol mewn perthynas â chategorïau penodol o deithwyr sydd wedi eu brechu yn erbyn y coronafeirws neu sydd o dan 18 oed.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn darparu nad yw’r esemptiadau yn rheoliad 2A yn rhychwantu personau sy’n teithio o Ffrainc Fetropolitanaidd.
Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall drafftio yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.