Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (y “Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru o wledydd neu diriogaethau nad ydynt yn esempt ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn cyflwyno diffiniad newydd mewn perthynas â theithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill. Mae hefyd yn gwneud mân ddiwygiad canlyniadol er mwyn symud diffiniad presennol o fewn y Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 4 yn cyflwyno esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu yn llawn yn y DU â brechlyn a gymeradwywyd. Mae’r esemptiadau hyn hefyd yn gymwys i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn treialon brechlynnau penodol, a dinasyddion o’r DU neu breswylwyr yn y DU sydd o dan 18 oed pan fônt yn cyrraedd Cymru. Mae’r teithwyr hynny wedi eu hesemptio rhag gorfod ynysu ar ôl dychwelyd o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt (ac eithrio un a bennir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol), ac nid oes ond gofyniad iddynt gymryd prawf diwrnod 2. Mae’r esemptiadau hyn yn gymwys felly mewn perthynas â theithwyr perthnasol sy’n cyrraedd o’r hyn a elwir yn gyffredin y gwledydd ‘rhestr oren’.
Mae rheoliadau 5, 6, 7, 8, 10 a 13 yn gwneud diwygiadau pellach i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn rhoi effaith i’r esemptiadau newydd hyn.
Mae rheoliad 9 yn cyflwyno trefn brofi newydd mewn perthynas â ‘digwyddiadau penodedig’, sy’n golygu’r digwyddiadau hynny a bennir yn yr Atodlen 1E newydd i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 5 yn hepgor pobl y mae’r drefn newydd hon yn gymwys iddynt o’r darpariaethau profi yn rheoliad 6AB o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae rheoliadau 11 a 12 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â throseddau a hysbysiadau cosb benodedig sy’n ymwneud â methiannau i gydymffurfio â’r gofynion mewn perthynas â phrofion digwyddiadau penodedig.
Mae rheoliad 15 yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth esempt ynysu, ni waeth beth fo’u statws o dan yr esemptiadau newydd sy’n ymwneud â brechu. Mae rheoliad 15 yn ychwanegu Bwlgaria, Croatia, Hong Kong a Taiwan at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin. Mae rheoliad 15 hefyd yn hepgor Ynysoedd Baleares ac Ynysoedd Prydeinig y Wyryf o’r rhestr.
Mae rheoliad 16 yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 16 yn ychwanegu Cuba, Indonesia, Myanmar a Sierra Leone at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr.
O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan reoliadau 4, 5, 6, 7, 8, 10 a 13 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 17 yn diwygio’r wybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig y mae rhaid i weithredwyr ei darparu i deithwyr cyn iddynt deithio i Gymru ac wrth iddynt deithio iddi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.