Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r Rheoliadau yn diwygio Atodlen 1 i’r prif Reoliadau (sy’n nodi’r cyfyngiadau a’r gofynion sy’n cael effaith yng Nghymru ar hyn o bryd fel ardal Lefel Rhybudd 1) er mwyn—

  • caniatáu i unrhyw 6 pherson, neu aelodau o ddim mwy na 2 aelwyd, ymgynnull o dan do mewn anheddau preifat a llety gwyliau neu lety teithio, hyd yn oed os nad yw’r personau hynny yn aelodau o’r un aelwyd estynedig (ac wrth benderfynu ar nifer y bobl sy’n ymgynnull, nid yw plant o dan 11 oed na gofalwyr personau sy’n ymgynnull i’w hystyried);

  • dileu’r terfyn blaenorol o 30 ar nifer y bobl y caniateir iddynt ymgynnull yn yr awyr agored (ond rhaid i bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd rheoleiddiedig yn yr awyr agored barhau i gydymffurfio â rheoliad 16 o’r prif Reoliadau drwy gymryd pob mesur rhesymol, yn seiliedig ar asesiad risg, i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre);

  • caniatáu i ddigwyddiadau rheoleiddiedig o dan do gael eu trefnu, ar yr amod nad yw mwy na 1,000 (pan fo pob person sy’n bresennol yn eistedd fel arfer) neu 200 (ar gyfer digwyddiadau eraill) o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg;

  • dileu’r cyfyngiad ar bobl yn ymgynnull mewn cynulliad neu ddigwyddiad rheoleiddiedig a gynhelir o dan do (ond unwaith eto, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y fangre gydymffurfio â’r uchafswm nifer a gaiff fod yn bresennol a rheoliad 16 o’r prif Reoliadau, gan gynnwys cymryd pob mesur rhesymol, yn seiliedig ar asesiad risg, i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pobl yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grwpiau o hyd at 6 o bobl sy’n ymgynnull gyda’i gilydd yn y digwyddiad neu aelodau o’r un aelwyd);

  • caniatáu i hyd at 30 o blant (o unrhyw oedran) ymgynnull mewn llety gwyliau neu lety teithio (er enghraifft, er mwyn aros dros nos) pan fo’r cynulliad yn gysylltiedig â chynulliad rheoleiddiedig er datblygiad neu lesiant plant, megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol mewn mannau megis canolfannau addysg awyr agored, neu’n gysylltiedig â chynulliad y mae’r plant yn cymryd rhan ynddo at ddiben cael gafael ar addysg neu gael addysg;

  • dileu’r terfyn blaenorol (o 4,000 neu 10,000 o bobl) ar nifer y bobl a gaiff fynd i ddigwyddiadau rheoleiddiedig awyr agored ar unrhyw adeg (ond bydd angen parhau i osod capasiti digwyddiadau yng ngoleuni’r mesurau rhesymol sydd i’w cymryd, yn seiliedig ar asesiad risg, o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau);

  • caniatáu i rinciau sglefrio iâ agor.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliadau 16 a 17 o’r prif Reoliadau.

Mae’r diwygiadau i reoliad 16 yn darparu bod rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre reoleiddiedig ddarparu gwybodaeth i bersonau sy’n gweithio yn y fangre ynghylch yr asesiad o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’r mesurau sydd i’w cymryd i leihau’r risg. Maent hefyd yn darparu nad yw’r gofyniad penodol i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pobl yn y fangre ond yn gymwys bellach i fangreoedd o dan do (ond mae dyletswydd o hyd i gymryd mesurau rhesymol i leihau risgiau mewn mangreoedd awyr agored, a all gynnwys cyfyngu ar ryngweithio corfforol agos rhwng pobl yn y fangre).

Mae’r diwygiadau i reoliad 17 yn darparu nad yw’n ofynnol i bersonau sy’n mynd i gynulliadau neu ddigwyddiadau rheoleiddiedig mewn mangreoedd trwyddedig eistedd wrth fwyta neu yfed.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill, gan gynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a nodir uchod.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.