RHAN 2LL+CDiwygiadau i Ddeddfwriaeth Sylfaenol

Deddf Addysg 2002LL+C

5.—(1Mae Deddf Addysg 2002(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 1(3)(2), ym mharagraff (g) o’r diffiniad o “qualifying body”, hepgorer “or the National Assembly for Wales”.

(3Yn adran 2(5)(3), yn lle “children with special educational needs” rhodder—

(a)in relation to England, children with special educational needs, or

(b)in relation to Wales, persons under 25 with special educational needs.

(4Ar ôl adran 92 (disgyblion â chynlluniau AIG) mewnosoder—

Pupils with Individual Development Plans

92A.  The additional learning provision described in an individual development plan prepared or maintained by a local authority in Wales under Part 2 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 may include provision—

(a)excluding the application of the National Curriculum for England, or

(b)applying the National Curriculum for England with such modifications as may be specified in the plan.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 5 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1

(2)

Diwygiwyd adran 1 gan baragraff 1 o Atodlen 16 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40). Mae adran 1 hefyd yn cynnwys diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mae paragraff (g) o’r diffiniad wedi ei amnewid gan Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) ond nid yw’r amnewidiad mewn grym eto.

(3)

Mae diwygiadau i adran 2 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.