Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
15 Gorffennaf 2021
Yn dod i rym
1 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau yn adran 97(1) a (2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 98(3)(c)(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Mae’r cyfeiriadau yn adran 98(3) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).