Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1818 (Cy. 261)) (“Rheoliadau 2015”) yng ngoleuni diwygiadau i adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”) a wnaed gan adran 16 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2). Mae rheoliad 6 yn dileu’r gofyniad yn Rheoliadau 2015 fod cynllun gofal a chymorth yn cynnwys cynllun addysg personol, oherwydd bod y gofyniad hwnnw wedi ei fewnosod yn adran 83 o Ddeddf 2014. Mae rheoliad 5 yn rhagnodi’r categorïau o blant sy’n derbyn gofal nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar eu cyfer fel rhan o’u cynllun gofal a chymorth. Y categorïau a ragnodir yw’r rheini nad oedd cynllun addysg personol yn ofynnol ar eu cyfer gan Reoliadau 2015. Nid yw’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun addysg personol wedi newid.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.