2021 Rhif 850 (Cy. 198)
Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 90(1) o Ddeddf y Coronafeirws 20201 (“y Ddeddf”), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr amodau a bennir yn adran 90(7) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn perthynas â’r darpariaethau y mae’r Rheoliadau hyn yn dod â hwy i ben.

Yn unol ag adran 94(1) o’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.

Enwi, cychwyn a dehongli1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2021.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf y Coronafeirws 2020.

Dod â darpariaethau’r Ddeddf sy’n gymwys yng Nghymru i ben yn gynnar2.

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i ben ar 1 Awst

(a)

Rhan 2 o Atodlen 12 (pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru)3;

(b)

adran 15 (gofal a chymorth gan awdurdodau lleol), i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12.

Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu i ddarpariaethau penodedig yn Neddf y Coronafeirws 2020 (“y Ddeddf”) sy’n addasu dyletswyddau penodol awdurdodau lleol mewn perthynas â gofal cymdeithasol i oedolion o dan Rannau 3 a 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ddod i ben.

Mae rheoliad 2 yn darparu i Ran 2 o Atodlen 12 i’r Ddeddf, ac adran 15 ohoni (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno) ddod i ben yn gynnar. Cafodd gweithrediad y darpariaethau hyn ei atal dros dro gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/316 (Cy. 81)).

Mae dod â’r darpariaethau a bennir yn rheoliad 2 i ben yn cymryd effaith yn ddarostyngedig i adran 89(2)(r) o’r Ddeddf sy’n eithrio paragraffau penodol o Atodlen 12 (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny) rhag dod i ben.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.