Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 850 (Cy. 198)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021

Gwnaed

15 Gorffennaf 2021

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 90(1) o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1) (“y Ddeddf”), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr amodau a bennir yn adran 90(7) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn perthynas â’r darpariaethau y mae’r Rheoliadau hyn yn dod â hwy i ben.

Yn unol ag adran 94(1) o’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2021.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf y Coronafeirws 2020.

Dod â darpariaethau’r Ddeddf sy’n gymwys yng Nghymru i ben yn gynnar

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i ben ar 1 Awst

(a)Rhan 2 o Atodlen 12 (pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru)(3);

(b)adran 15 (gofal a chymorth gan awdurdodau lleol), i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Gorffennaf 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu i ddarpariaethau penodedig yn Neddf y Coronafeirws 2020 (“y Ddeddf”) sy’n addasu dyletswyddau penodol awdurdodau lleol mewn perthynas â gofal cymdeithasol i oedolion o dan Rannau 3 a 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ddod i ben.

Mae rheoliad 2 yn darparu i Ran 2 o Atodlen 12 i’r Ddeddf, ac adran 15 ohoni (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno) ddod i ben yn gynnar. Cafodd gweithrediad y darpariaethau hyn ei atal dros dro gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/316 (Cy. 81)).

Mae dod â’r darpariaethau a bennir yn rheoliad 2 i ben yn cymryd effaith yn ddarostyngedig i adran 89(2)(r) o’r Ddeddf sy’n eithrio paragraffau penodol o Atodlen 12 (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny) rhag dod i ben.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2020 p. 7 (“y Ddeddf”). Mae’r pwerau a roddir i awdurdod cenedlaethol perthnasol gan adran 90(1) o’r Ddeddf yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru; gweler adran 90(5) a (7) am y diffiniad o “relevant national authority”.

(2)

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

Mae dod â Rhan 2 o Atodlen 12 (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno) i ben yn cymryd effaith yn ddarostyngedig i adran 89(2)(r) o’r Ddeddf, sy’n darparu na fydd darpariaethau penodol o’r Ddeddf yn dod i ben ac y byddant yn parhau i gael effaith. Y darpariaethau perthnasol yw paragraffau 30, 33 a 35 o Atodlen 12 (ac adran 15 a pharagraff 19 o Atodlen 12 i’r graddau y maent yn ymwneud â’r paragraffau hynny).