- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
14 Gorffennaf 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
16 Gorffennaf 2021
Yn dod i rym
30 Gorffennaf 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Gorffennaf 2021.
2.—(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” yn Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol(4);”.
(3) Yn rheoliad 26(3), yn lle “dydd ar 31 Gorffennaf 2021” rhodder “cyfnod graddoli trosiannol”.
(4) Yn Atodlen 5—
(a)ym mharagraff 5(3), yn lle “31 Gorffennaf 2021” rhodder “1 Hydref 2021”;
(b)ym mharagraff 6(1)(c)—
(i)yn lle “31 Gorffennaf 2021” rhodder “1 Hydref 2021”;
(ii)ar ôl “cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid” mewnosoder “neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
14 Gorffennaf 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio diffygion yn Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379) (Cy. 252) (“Rheoliadau 2011”) o ganlyniad i ymadael â’r UE. Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2011 fel bod Atodlen 5 yn cael effaith ac yn parhau mewn grym hyd at ddiwedd y cyfnod graddoli trosiannol (a ddiffinnir yn Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (EUR 2017/625)), ac er mwyn newid y dyddiad y mae gofynion hysbysu trosiannol ymlaen llaw ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn gymwys ohono o 31 Gorffennaf 2021 i 1 Hydref 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2018 p. 16; gweler adran 20(1) am y diffiniad o “devolved authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraff 53(2) o Ran 2 o Atodlen 5 iddi.
Mae’r cyfeiriadau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodwyd rheoliad 26(3) gan reoliad 19 o O.S. 2020/1612 (Cy. 337). Mewnosodwyd Atodlen 5 gan reoliad 32 o O.S. 2020/1612 (Cy. 337). Diwygiwyd paragraffau 5(3) a 6(1)(c) o Atodlen 5 gan reoliad 2 o O.S. 2021/384 (Cy. 122). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
EUR 2017/625. Mewnosodwyd Atodiad 6 gan O.S. 2020/1481 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2021/429.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: