Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 847 (Cy. 197)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

14 Gorffennaf 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

16 Gorffennaf 2021

Yn dod i rym

30 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Gorffennaf 2021.

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

2.—(1Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” yn Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol(4);.

(3Yn rheoliad 26(3), yn lle “dydd ar 31 Gorffennaf 2021” rhodder “cyfnod graddoli trosiannol”.

(4Yn Atodlen 5—

(a)ym mharagraff 5(3), yn lle “31 Gorffennaf 2021” rhodder “1 Hydref 2021”;

(b)ym mharagraff 6(1)(c)—

(i)yn lle “31 Gorffennaf 2021” rhodder “1 Hydref 2021”;

(ii)ar ôl “cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid” mewnosoder “neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid”.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

14 Gorffennaf 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio diffygion yn Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379) (Cy. 252) (“Rheoliadau 2011”) o ganlyniad i ymadael â’r UE. Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2011 fel bod Atodlen 5 yn cael effaith ac yn parhau mewn grym hyd at ddiwedd y cyfnod graddoli trosiannol (a ddiffinnir yn Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (EUR 2017/625)), ac er mwyn newid y dyddiad y mae gofynion hysbysu trosiannol ymlaen llaw ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn gymwys ohono o 31 Gorffennaf 2021 i 1 Hydref 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16; gweler adran 20(1) am y diffiniad o “devolved authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraff 53(2) o Ran 2 o Atodlen 5 iddi.

(2)

Mae’r cyfeiriadau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodwyd rheoliad 26(3) gan reoliad 19 o O.S. 2020/1612 (Cy. 337). Mewnosodwyd Atodlen 5 gan reoliad 32 o O.S. 2020/1612 (Cy. 337). Diwygiwyd paragraffau 5(3) a 6(1)(c) o Atodlen 5 gan reoliad 2 o O.S. 2021/384 (Cy. 122). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(4)

EUR 2017/625. Mewnosodwyd Atodiad 6 gan O.S. 2020/1481 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2021/429.