2021 Rhif 847 (Cy. 197)
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad2.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Gorffennaf 2021.
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20112
1
Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20113 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—
mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” yn Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol4;
3
Yn rheoliad 26(3), yn lle “dydd ar 31 Gorffennaf 2021” rhodder “cyfnod graddoli trosiannol”.
4
Yn Atodlen 5—
a
ym mharagraff 5(3), yn lle “31 Gorffennaf 2021” rhodder “1 Hydref 2021”;
b
ym mharagraff 6(1)(c)—
i
yn lle “31 Gorffennaf 2021” rhodder “1 Hydref 2021”;
ii
ar ôl “cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid” mewnosoder “neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)