Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 5 Awst 2021.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 20192.
(1)
(2)
“ATODLEN 1Ffioedd am arolygiadau mewn cysylltiad ag awdurdodiad pasbort planhigion
Math o arolygiad
Ffi
Arolygiad ffisegol a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) mewn cysylltiad â rhoi, amrywio neu atal dros dro awdurdodiad pasbort planhigion neu er mwyn monitro cydymffurfedd â’r awdurdodiad hwnnw—
(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf;
£49.50
(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw
£12.38”.
(3)
“ATODLEN 4AFfioedd mewn cysylltiad â chais am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio: Cymru
Gwasanaeth
Ffi
Ystyried cais, gan gynnwys dyroddi, pan fo’n briodol, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio
£21.00
Archwilio neu brofi pren, cynhyrchion pren, rhisgl wedi ei wahanu neu beiriannau coedwigaeth a ddefnyddiwyd a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa)—
(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf;
£37.80
(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw
£10.50”.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497 (Cy. 114)).
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynyddu’r ffioedd am wasanaethau mewn perthynas ag awdurdodiadau pasbortau planhigion a cheisiadau am dystysgrifau ffytoiechydol (gan gynnwys tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio) i adlewyrchu cynnydd chwyddiannol o ran y gost o ddarparu’r gwasanaethau hynny ers cyflwyno’r ffioedd hynny. Mae’r ffioedd sy’n ymwneud ag awdurdodiadau pasbortau planhigion wedi cynyddu 34% ar gyfer y cyfnod rhwng 2006 a 2020, tra bod y ffioedd ar gyfer tystysgrifau allforio wedi cynyddu 40% ar gyfer y cyfnod rhwng 2004 a 2020 (yn seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.