(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497 (Cy. 114)).
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynyddu’r ffioedd am wasanaethau mewn perthynas ag awdurdodiadau pasbortau planhigion a cheisiadau am dystysgrifau ffytoiechydol (gan gynnwys tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio) i adlewyrchu cynnydd chwyddiannol o ran y gost o ddarparu’r gwasanaethau hynny ers cyflwyno’r ffioedd hynny. Mae’r ffioedd sy’n ymwneud ag awdurdodiadau pasbortau planhigion wedi cynyddu 34% ar gyfer y cyfnod rhwng 2006 a 2020, tra bod y ffioedd ar gyfer tystysgrifau allforio wedi cynyddu 40% ar gyfer y cyfnod rhwng 2004 a 2020 (yn seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.