Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 838 (Cy. 195)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

Gwnaed

13 Gorffennaf 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Gorffennaf

Yn dod i rym

5 Awst 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 5 Awst 2021.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019

2.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle Atodlen 1 rhodder—

Rheoliad 3(2)

ATODLEN 1Ffioedd am arolygiadau mewn cysylltiad ag awdurdodiad pasbort planhigion

Math o arolygiadFfi
Arolygiad ffisegol a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) mewn cysylltiad â rhoi, amrywio neu atal dros dro awdurdodiad pasbort planhigion neu er mwyn monitro cydymffurfedd â’r awdurdodiad hwnnw—
(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf;£49.50
(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw£12.38.

(3Yn lle Atodlen 4A rhodder—

Rheoliad 3(5A)

ATODLEN 4AFfioedd mewn cysylltiad â chais am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio: Cymru

GwasanaethFfi
Ystyried cais, gan gynnwys dyroddi, pan fo’n briodol, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio£21.00
Archwilio neu brofi pren, cynhyrchion pren, rhisgl wedi ei wahanu neu beiriannau coedwigaeth a ddefnyddiwyd a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa)—
(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf;£37.80
(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw£10.50.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

13 Gorffennaf 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497 (Cy. 114)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynyddu’r ffioedd am wasanaethau mewn perthynas ag awdurdodiadau pasbortau planhigion a cheisiadau am dystysgrifau ffytoiechydol (gan gynnwys tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio) i adlewyrchu cynnydd chwyddiannol o ran y gost o ddarparu’r gwasanaethau hynny ers cyflwyno’r ffioedd hynny. Mae’r ffioedd sy’n ymwneud ag awdurdodiadau pasbortau planhigion wedi cynyddu 34% ar gyfer y cyfnod rhwng 2006 a 2020, tra bod y ffioedd ar gyfer tystysgrifau allforio wedi cynyddu 40% ar gyfer y cyfnod rhwng 2004 a 2020 (yn seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16 (“Deddf 2018”). Mae Gweinidogion Cymru yn “appropriate authority” yn rhinwedd paragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf 2018. Diwygiwyd ystyr “appropriate authority” ym mharagraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf 2018 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraff 47(5) o Atodlen 5 iddi.

(2)

O.S. 2019/497 (Cy. 114), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/44 (Cy. 5); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources