NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).

Mae rheoliad 2(2) yn cael gwared ar y gofyniad i gais a wneir gan awdurdod cynllunio lleol i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal gael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu. Mae rheoliad 2(3) a (4) yn ganlyniadol ar reoliad 2(2).

Mae rheoliad 2(5) yn mewnosod dau baragraff yn rheoliad 9 o Reoliadau 2012. Mae’r paragraff (8) newydd yn darparu na chaiff y pwyllgor neu’r is-bwyllgor sy’n penderfynu ar gais gan yr awdurdod cynllunio lleol fod wedi ymwneud â rheoli’r adeilad. Mae’r paragraff (9) newydd yn darparu, pan fo cais gan yr awdurdod cynllunio lleol yn cael ei benderfynu gan yr awdurdod hwnnw, nad oes hawl i apelio.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n darparu y bydd unrhyw gais a wneir gan awdurdod cynllunio lleol i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.