2021 Rhif 832 (Cy. 194)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 10(3), 82(2)1 a 93(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 19902 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, dod i rym a dehongli1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 16 Awst 2021.

(2)

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2012” yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 20124.

Diwygiadau i Reoliadau 20122.

(1)

Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Ym mharagraff (2) hepgorer “, newid neu estyn”.

(3)

Ym mharagraff (3) yn lle “unrhyw gais o’r fath” rhodder “gais o dan baragraff (2)”.

(4)

Hepgorer paragraff (5).

(5)

Ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

“(8)

Pan fo’n ofynnol i awdurdod cynllunio lleol gael caniatâd adeilad rhestredig i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal ni chaniateir i’r cais gael ei benderfynu gan—

(a)

pwyllgor neu is-bwyllgor i’r awdurdod cynllunio lleol os yw’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor hwnnw’n gyfrifol (yn llwyr neu’n rhannol) am reoli unrhyw adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef, neu

(b)

swyddog i’r awdurdod cynllunio lleol os yw ei gyfrifoldebau’n cynnwys unrhyw agwedd ar reoli unrhyw adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(9)

Pan fo cais am ganiatâd adeilad rhestredig i newid neu estyn adeilad rhestredig yn cael ei wneud gan awdurdod cynllunio lleol a phan mai’r awdurdod hwnnw sy’n penderfynu ar y cais am ganiatâd adeilad rhestredig, ni fydd adran 20 o’r Ddeddf (hawl i apelio yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad) yn gymwys.”

Darpariaeth drosiannol3.

Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gais a wneir yn unol â rheoliad 9(2) o Reoliadau 2012 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).

Mae rheoliad 2(2) yn cael gwared ar y gofyniad i gais a wneir gan awdurdod cynllunio lleol i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal gael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu. Mae rheoliad 2(3) a (4) yn ganlyniadol ar reoliad 2(2).

Mae rheoliad 2(5) yn mewnosod dau baragraff yn rheoliad 9 o Reoliadau 2012. Mae’r paragraff (8) newydd yn darparu na chaiff y pwyllgor neu’r is-bwyllgor sy’n penderfynu ar gais gan yr awdurdod cynllunio lleol fod wedi ymwneud â rheoli’r adeilad. Mae’r paragraff (9) newydd yn darparu, pan fo cais gan yr awdurdod cynllunio lleol yn cael ei benderfynu gan yr awdurdod hwnnw, nad oes hawl i apelio.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n darparu y bydd unrhyw gais a wneir gan awdurdod cynllunio lleol i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.