Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 832 (Cy. 194)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

12 Gorffennaf 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

16 Gorffennaf 2021

Yn dod i rym

16 Awst 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 10(3), 82(2)(1) a 93(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(2) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 16 Awst 2021.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2012” yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(4).

Diwygiadau i Reoliadau 2012

2.—(1Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2) hepgorer “, newid neu estyn”.

(3Ym mharagraff (3) yn lle “unrhyw gais o’r fath” rhodder “gais o dan baragraff (2)”.

(4Hepgorer paragraff (5).

(5Ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(8) Pan fo’n ofynnol i awdurdod cynllunio lleol gael caniatâd adeilad rhestredig i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal ni chaniateir i’r cais gael ei benderfynu gan—

(a)pwyllgor neu is-bwyllgor i’r awdurdod cynllunio lleol os yw’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor hwnnw’n gyfrifol (yn llwyr neu’n rhannol) am reoli unrhyw adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef, neu

(b)swyddog i’r awdurdod cynllunio lleol os yw ei gyfrifoldebau’n cynnwys unrhyw agwedd ar reoli unrhyw adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(9) Pan fo cais am ganiatâd adeilad rhestredig i newid neu estyn adeilad rhestredig yn cael ei wneud gan awdurdod cynllunio lleol a phan mai’r awdurdod hwnnw sy’n penderfynu ar y cais am ganiatâd adeilad rhestredig, ni fydd adran 20 o’r Ddeddf (hawl i apelio yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad) yn gymwys.

Darpariaeth drosiannol

3.  Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gais a wneir yn unol â rheoliad 9(2) o Reoliadau 2012 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

12 Gorffennaf 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).

Mae rheoliad 2(2) yn cael gwared ar y gofyniad i gais a wneir gan awdurdod cynllunio lleol i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal gael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu. Mae rheoliad 2(3) a (4) yn ganlyniadol ar reoliad 2(2).

Mae rheoliad 2(5) yn mewnosod dau baragraff yn rheoliad 9 o Reoliadau 2012. Mae’r paragraff (8) newydd yn darparu na chaiff y pwyllgor neu’r is-bwyllgor sy’n penderfynu ar gais gan yr awdurdod cynllunio lleol fod wedi ymwneud â rheoli’r adeilad. Mae’r paragraff (9) newydd yn darparu, pan fo cais gan yr awdurdod cynllunio lleol yn cael ei benderfynu gan yr awdurdod hwnnw, nad oes hawl i apelio.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n darparu y bydd unrhyw gais a wneir gan awdurdod cynllunio lleol i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

Am y diffiniad o “prescribed” gweler adran 91 o’r Ddeddf.

(2)

1990 p. 9. Diwygiwyd adran 10(3) gan adran 118 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a pharagraff 20 o Atodlen 6 iddi, ac mae diwygiadau eraill i’r adran honno nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn. Nid yw adran 82(2) wedi ei diwygio ond mae diwygiadau eraill i’r adran honno nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn. Diwygiwyd adran 93(1) gan adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4) ac mae diwygiadau eraill i’r adran honno nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources