- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
12 Gorffennaf 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
16 Gorffennaf 2021
Yn dod i rym
16 Awst 2021
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 16 Awst 2021.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2012” yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(4).
2.—(1) Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2) hepgorer “, newid neu estyn”.
(3) Ym mharagraff (3) yn lle “unrhyw gais o’r fath” rhodder “gais o dan baragraff (2)”.
(4) Hepgorer paragraff (5).
(5) Ar ôl paragraff (7) mewnosoder—
“(8) Pan fo’n ofynnol i awdurdod cynllunio lleol gael caniatâd adeilad rhestredig i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal ni chaniateir i’r cais gael ei benderfynu gan—
(a)pwyllgor neu is-bwyllgor i’r awdurdod cynllunio lleol os yw’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor hwnnw’n gyfrifol (yn llwyr neu’n rhannol) am reoli unrhyw adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef, neu
(b)swyddog i’r awdurdod cynllunio lleol os yw ei gyfrifoldebau’n cynnwys unrhyw agwedd ar reoli unrhyw adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(9) Pan fo cais am ganiatâd adeilad rhestredig i newid neu estyn adeilad rhestredig yn cael ei wneud gan awdurdod cynllunio lleol a phan mai’r awdurdod hwnnw sy’n penderfynu ar y cais am ganiatâd adeilad rhestredig, ni fydd adran 20 o’r Ddeddf (hawl i apelio yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad) yn gymwys.”
3. Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gais a wneir yn unol â rheoliad 9(2) o Reoliadau 2012 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
12 Gorffennaf 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).
Mae rheoliad 2(2) yn cael gwared ar y gofyniad i gais a wneir gan awdurdod cynllunio lleol i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal gael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu. Mae rheoliad 2(3) a (4) yn ganlyniadol ar reoliad 2(2).
Mae rheoliad 2(5) yn mewnosod dau baragraff yn rheoliad 9 o Reoliadau 2012. Mae’r paragraff (8) newydd yn darparu na chaiff y pwyllgor neu’r is-bwyllgor sy’n penderfynu ar gais gan yr awdurdod cynllunio lleol fod wedi ymwneud â rheoli’r adeilad. Mae’r paragraff (9) newydd yn darparu, pan fo cais gan yr awdurdod cynllunio lleol yn cael ei benderfynu gan yr awdurdod hwnnw, nad oes hawl i apelio.
Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n darparu y bydd unrhyw gais a wneir gan awdurdod cynllunio lleol i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Am y diffiniad o “prescribed” gweler adran 91 o’r Ddeddf.
1990 p. 9. Diwygiwyd adran 10(3) gan adran 118 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a pharagraff 20 o Atodlen 6 iddi, ac mae diwygiadau eraill i’r adran honno nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn. Nid yw adran 82(2) wedi ei diwygio ond mae diwygiadau eraill i’r adran honno nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn. Diwygiwyd adran 93(1) gan adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4) ac mae diwygiadau eraill i’r adran honno nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2012/793 (Cy. 108) a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/1332 (Cy. 125), O.S. 2016/91 (Cy. 44), O.S. 2017/545 (Cy. 122) ac O.S. 2017/638 (Cy. 144), ac fel y’i haddaswyd gan O.S. 2016/56 (Cy. 26).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: