Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018 sy’n ymwneud â swm y cymorth cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys drwy gyfeirio at y man lle y mae’n byw yn ystod y chwarteri y mae’r cymorth hwnnw yn daladwy ynddynt. Mae’r diwygiadau yn darparu bod myfyriwr cymwys sy’n byw gyda’i rieni am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y byddai wedi bod yn byw ynddo oni bai am y rheswm hwnnw, oni bai bod y myfyriwr yn gofyn fel arall.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro gwallau teipograffyddol yn Rheoliadau 2007, Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018 a Rheoliadau 2019.