Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021
Enwi a chychwyn
1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2021.
Diwygiad i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
2.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
3.
4.
Yn rheoliad 46 (myfyrwyr sy’n preswylio gyda’u rhieni)—
(a)
ym mharagraff (1) yn lle “(“A” yn y paragraff hwn)” rhodder “(“A” yn y rheoliad hwn)”;
(b)
“(3)
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo A yn preswylio yng nghartref rhieni A am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws, caiff A ei drin fel pe na bai A yn preswylio yng nghartref rhieni A.
(4)
Nid yw paragraff (3) yn gymwys pan fo A yn gofyn bod Gweinidogion Cymru yn ei drin fel pe bai’n preswylio yng nghartref ei rieni.”
5.
“(fa)
ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);”
6.
Yn rheoliadau 49(2)(h) a 111(2)(e) yn lle “y person yn dod yn berson” rhodder “y myfyriwr yn dod yn berson”.
7.
Yn Atodlen 1—
(a)
yn nhestun Cymraeg paragraff 1(5)(b) yn lle’r atalnod llawn rhodder “; ac”;
(b)
yn nhestun Saesneg paragraff 11A(a) yn lle “agreements” rhodder “agreement”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
8.
9.
“(4)
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo myfyriwr cymwys yn byw gartref am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws, caiff y myfyriwr cymwys ei drin fel pe bai’n byw yn y categori o leoliad y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’r myfyriwr cymwys wedi bod yn byw ynddo oni bai am y rheswm hwnnw.
(5)
Nid yw paragraff (4) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys wedi gofyn am gael ei drin fel pe bai’n byw gartref.”
10.
Yn lle “y person yn dod yn berson” rhodder “y myfyriwr yn dod yn berson” lle y mae’n digwydd yn—
(a)
rheoliad 80(2)(b)(v);
(b)
rheoliad 81(3)(b)(iv);
(c)
Atodlen 4, paragraff 14(3)(b)(iv); a
(d)
Atodlen 5, paragraff 4(2)(e).
Diwygiad i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
11.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018 sy’n ymwneud â swm y cymorth cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys drwy gyfeirio at y man lle y mae’n byw yn ystod y chwarteri y mae’r cymorth hwnnw yn daladwy ynddynt. Mae’r diwygiadau yn darparu bod myfyriwr cymwys sy’n byw gyda’i rieni am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y byddai wedi bod yn byw ynddo oni bai am y rheswm hwnnw, oni bai bod y myfyriwr yn gofyn fel arall.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro gwallau teipograffyddol yn Rheoliadau 2007, Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018 a Rheoliadau 2019.