Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 796 (Cy. 190)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2021

Gwnaed

1 Gorffennaf 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

6 Gorffennaf 2021

Yn dod i rym

1 Awst 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(2)(g) a (3)(d) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1)ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(2)(g) a (3)(d) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8). Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6), i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.