ATODLEN 1Meintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori
Categori | Tail a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (litrau) | Nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau) | Ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau) |
|---|---|---|---|
Gwartheg | |||
Lloi (pob categori ac eithrio lloi cig llo) hyd at 3 mis: | 7 | 23 | 12.7 |
Buchod godro— | |||
O 3 mis ymlaen ac o dan 13 mis: | 20 | 95 | 34 |
O 13 mis ymlaen tan y llo cyntaf: | 40 | 167 | F169 |
Ar ôl y llo cyntaf â’r— | |||
cynnyrch llaeth blynyddol yn fwy na 9000 litr: | 64 | 315 | 142 |
cynnyrch llaeth blynyddol rhwng 6000 a 9000 litr: | 53 | 276 | 121 |
cynnyrch llaeth blynyddol yn llai na 6000 litr: | 42 | 211 | 93 |
Buchod neu fustych eidion(a)— | |||
O 3 mis ymlaen ac o dan 13 mis: | 20 | 91 | 33 |
O 13 mis ymlaen ac o dan 25 mis: | 26 | 137 | 43 |
O 25 mis ymlaen— | |||
gwartheg benyw neu fustych i’w cigydda: | 31 | 137 | 60 |
gwartheg benyw ar gyfer bridio— | |||
sy’n pwyso 500 kg neu lai: | 32 | 167 | 65 |
sy’n pwyso mwy na 500 kg: | 45 | 227 | 86 |
Teirw | |||
nad ydynt ar gyfer bridio, ac sy’n 3 mis a throsodd: | 26 | 148 | 24 |
Bridio— | |||
o 3 mis ymlaen ac o dan 25 mis: | 26 | 137 | 43 |
o 25 mis ymlaen: | 26 | 132 | 60 |
Defaid | |||
O 6 mis ymlaen hyd at 9 mis oed: | 1.8 | 5.5 | 0.76 |
O 9 mis hyd at wyna am y tro cyntaf, hwrdda am y tro cyntaf, neu gigydda: | 1.8 | 3.9 | 2.1 |
Ar ôl wyna neu hwrdda(b)— | |||
yn pwyso llai na 60 kg: | 3.3 | 21 | 8.8 |
yn pwyso o 60 kg i fyny: | 5 | F233 | 10.0 |
Geifr, ceirw a cheffylau | |||
Geifr: | 3.5 | 41 | 18.8 |
Ceirw— | |||
bridio: | 5 | 42 | 17.6 |
eraill: | 3.5 | 33 | 11.7 |
Ceffylau: | 24 | 58 | 56 |
Categori | Tail a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (litrau) | Nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau) | Ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau) |
|---|---|---|---|
Gwartheg | |||
Lloi cig llo: | 7 | 23 | 12.7 |
Dofednod(a) | |||
Ieir a ddefnyddir i gynhyrchu wyau ar gyfer eu bwyta gan bobl— | |||
o dan 17 wythnos: | 0.04 | 0.64 | 0.47 |
o 17 wythnos ymlaen (mewn caets): | 0.12 | 1.13 | 1.0 |
o 17 wythnos ymlaen (nid mewn caets): | 0.12 | 1.5 | 1.1 |
Ieir a fegir ar gyfer cig: | 0.06 | 1.06 | 0.72 |
Ieir a fegir ar gyfer bridio— | |||
o dan 25 wythnos: | 0.04 | 0.86 | 0.78 |
o 25 wythnos ymlaen: | 0.12 | 2.02 | 1.5 |
Tyrcwn— | |||
gwryw: | 0.16 | 3.74 | 3.1 |
benyw: | 0.12 | 2.83 | 2.3 |
Hwyaid: | 0.10 | 2.48 | 2.4 |
Estrysiaid: | 1.6 | 3.83 | 18.5 |
Moch | |||
Yn pwyso o 7 kg i fyny ac yn llai na 13 kg: | 1.3 | 4.1 | 1.3 |
Yn pwyso o 13 kg i fyny ac yn llai na 31 kg: | 2 | 14.2 | 6.0 |
Yn pwyso o 31 kg i fyny ac yn llai na 66 kg— | |||
porthir â bwyd sych: | 3.7 | 24 | 12.1 |
porthir â hylifau: | 7.1 | 24 | 12.1 |
Yn pwyso o 66 kg i fyny ac— | |||
A fwriedir i’w cigydda— | |||
porthir â bwyd sych: | 5.1 | 33 | 17.9 |
porthir â hylifau: | 10 | 33 | 17.9 |
hychod a fwriedir ar gyfer bridio ond nad ydynt eto wedi cael eu torllwyth cyntaf: | 5.6 | 38 | 20 |
hychod (gan gynnwys eu torllwythi yn pwyso hyd at 7 kg pob porchell) a borthwyd ar ddeiet gydag ychwanegi-adau o asidau amino synthetig: | 10.9 | 44 | 37 |
hychod (gan gynnwys eu torllwythi yn pwyso hyd at 7 kg pob porchell) a borthwyd ar ddeiet heb ychwanegi-adau o asidau amino synthetig: | 10.9 | 49 | 37 |
baeddod bridio o 66 kg hyd at 150 kg: | 5.1 | 33 | 17.9 |
baeddod bridio o 150 kg | 8.7 | 48 | 28 |
F3ATODLEN 1AGofynion rheoli maethynnau uwch
Cymhwyso Atodlen 1A
1.
Mae’r gofynion rheoli maethynnau uwch a ganlyn yn gymwys i F4feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol sy’n bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
Dehongli
2.
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “dadansoddiad samplu pridd” (“soil sampling analysis”) yw dadansoddiad o sampl pridd a wneir gan labordy profi pridd i ddadansoddi priddoedd ar gyfer ffosfforws;
ystyr “mynegai ffosfforws pridd” (“soil phosphorus index”) yw cyfeiriad at y rhif mynegai a neilltuwyd i’r pridd yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen hon, i ddynodi lefel y ffosfforws sydd ar gael o’r pridd.
Tail da byw sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol
3.
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau mai’r unig dail da byw sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yw tail a gynhyrchir gan y da byw ar y daliad.
Dadansoddiad samplu pridd
4.
(1)
Rhaid i’r meddiannydd, at ddibenion pennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd, ymgymryd â dadansoddiad samplu pridd o bob pumed hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd.
(2)
Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau dadansoddiad samplu pridd blaenorol o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cynhaliwyd y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2020 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2023.
(3)
Pan na fo dadansoddiad samplu pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd wedi ei gynnal o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), rhaid cynnal y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024.
Pennu’r mynegai ffosfforws pridd
5.
Rhaid i’r meddiannydd bennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd trwy ddefnyddio canlyniadau’r dadansoddiad samplu pridd o dan baragraff 4 a’r gwerthoedd yn y tabl a ganlyn.
Mynegai ffosfforws | Ffosfforws (P) mg / L Olsen (P) |
|---|---|
0 | 0-9 |
1 | 10-15 |
2 | 16-25 |
3 | 26-45 |
4 | 46-70 |
5 | 71-100 |
6 | 101-140 |
7 | 141-200 |
8 | 201-280 |
9 | Dros 280 |
Cynllunio’r modd y taenir gwrtaith ffosffad
6.
Yn ogystal â llunio cynlluniau taenu nitrogen o dan reoliad 6 (cynllunio’r modd y taenir gwrtaith nitrogen) rhaid i’r meddiannydd, o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024—
(a)
cyfrifo’r maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd, a
(b)
llunio cynllun (“cynllun rheoli maethynnau uwch”) ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol.
Gofynion ar gyfer cynlluniau rheoli maethynnau uwch
7.
(1)
Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad—
(a)
cynnwys map risg, a lunnir yn unol â pharagraff 11(1), sy’n nodi lleoliad y caeau y mae’r cynllun yn ymwneud â hwy, a
(b)
datgan yn glir mewn perthynas ag unrhyw gae y cyfeirir ato yn y cynllun y math o wrtaith sydd i’w ddefnyddio.
(2)
Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch gofnodi—
(a)
y mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd,
(b)
y maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd,
(c)
faint o nitrogen (kg) sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu yn ystod y cyfnod perthnasol,
(d)
faint o ffosffad (kg) sy’n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y cyfnod perthnasol, wedi ei gyfrifo yn unol ag—
(i)
tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) o Atodlen 1,
(ii)
samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3, neu
(iii)
dadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr,
(e)
faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o nitrogen sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y nitrogen a fydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y cyfnod perthnasol), ac
(f)
faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddiben gwrteithio’r cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol).
Cyfanswm y ffosfforws sydd i’w daenu ar ddaliad yn ystod y cyfnod perthnasol
8.
Ni waeth beth fo’r ffigur a gofnodir yn y cynllun rheoli maethynnau uwch yn unol â pharagraff 7(2)(b), rhaid i’r meddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—
(a)
y ffosffad o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, a
(b)
y ffosffad o dail organig, yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo,
yn fwy, yn ystod y cyfnod perthnasol, na’r terfynau a bennir ym mharagraff 9.
Terfynau ffosffad uchaf fesul cnwd
9.
(1)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff cyfanswm y ffosffad a daenir ar unrhyw gnwd a restrir yng ngholofn gyntaf unrhyw un o’r tablau isod fod yn fwy na’r ffigur o dan y rhif mynegai ffosfforws pridd cymwys yn yr un tabl.
Mynegai ffosfforws pridd (kg P2O5 / ha) | |||||
|---|---|---|---|---|---|
0 | 1 | 2 | 3 | 4+ | |
Wrth i’r borfa ymsefydlu | 120 | 80 | 50 | 30 | 0 |
Pori | 80 | 50 | 20 | 0 | 0 |
Gwair | 80 | 55 | 30 | 0 | 0 |
Silwair | |||||
Toriad cyntaf | 100 | 70 | 40 | 20 | 0 |
Ail doriad | 25 | 25 | 25 | 0 | 0 |
Trydydd toriad | 15 | 15 | 15 | 0 | 0 |
Pedwerydd toriad | 10 | 10 | 10 | 0 | 0 |
Mynegai-P | 0 | 1 | 2 | 3 | 4 | 5+ |
|---|---|---|---|---|---|---|
Cnwd | Ffosffad (kg / ha) | |||||
Cnydau porthi | ||||||
Indrawn porthi | 115 | 85 | 55 | 20 | 0 | 0 |
Ydau cnwd cyfan | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Swêds a maip porthi (wedi eu codi) | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 | 0 |
Betys porthiant (wedi eu codi) | 120 | 90 | 60 | 0 | 0 | 0 |
Rêp, swêds a maip sofl porthi (a borir) | 85 | 55 | 25 | 0 | 0 | 0 |
Cêl (a borir) | 80 | 50 | 20 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwellt a heuir ar gyfer hadau | 90 | 60 | 30 | 0 | 0 | 0 |
Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori) | ||||||
Gwenith y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwenith y gaeaf | 125 | 95 | 65 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gwanwyn | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 | 0 |
Gwenith y gwanwyn/rhygwenith y gwanwyn/rhyg/ceirch | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith) | ||||||
Gwenith y gaeaf | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwenith y gaeaf | 130 | 100 | 70 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gaeaf | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gwanwyn> | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 | 0 |
Gwenith y gwanwyn | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwenith y gwanwyn/rhyg | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Ceirch | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Hadau olew | ||||||
Rêp had olew y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Rêp had olew y gwanwyn neu had llin | 90 | 60 | 30 | 0 | 0 | 0 |
Pys (sych a dringo) a ffa | 100 | 70 | 40 | 0 | 0 | 0 |
Betys siwgr | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Tatws | 250 | 210 | 170 | 100 | 0 | 0 |
Llysiau a bylbiau | ||||||
Merllys (ymsefydlu) | 175 | 150 | 125 | 100 | 75 | 0 |
Merllys (y blynyddoedd dilynol ar ôl ymsefydlu) | 75 | 75 | 50 | 50 | 25 | 0 |
Ysgewyll Brwsel, bresych storio, bresych pen a bresych llyfnddail | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Blodfresych a calabrese | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Seleri | 250 | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 |
Pys (cynhaeaf y farchnad) | 185 | 135 | 85 | 35 | 0 | 0 |
Ffa llydan, corffa a ffa dringo | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Radis ac india-corn | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 | 0 |
Letys a dail berwr | 250 | 200 | 150 | 100 | 60(a) | 60(a) |
Winwns a chennin | 200 | 150 | 100 | 50 | 60(a) | 60(a) |
Betys (coch) swêds, maip, pannas a moron | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Bylbiau a blodau bwlb | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Coriander a mintys | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 | 0 |
Courgettes | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 | 0 |
Ffrwythau a gwinwydd cyn plannu | 200 | 100 | 50 | 50 | 0 | 0 |
Hopys cyn plannu | 250 | 175 | 125 | 100 | 50 | 0 |
Ffrwythau coed sefydledig | 80 | 40 | 20 | 20 | 0 | 0 |
Cyrens duon, cyrens cochion, eirin Mair, mafon, mwyar logan, mafonfwyar, mwyar duon, mefus a gwinwydd | 110 | 70 | 40 | 40 | 0 | 0 |
Hopys sefydledig | 250 | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 |
(2)
Caniateir taenu ffosffad ar borfa a chnydau eraill uwchben y gwerthoedd a nodir yn y tablau uchod yn ddarostyngedig i gael cyngor ysgrifenedig ymlaen llaw gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.
Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y cyfnod perthnasol
10.
(1)
Yn ogystal â’r wybodaeth sydd i’w chofnodi o dan reoliad 7 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i’r meddiannydd—
(a)
cyn taenu tail organig yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi cyfanswm y ffosffad (kg) sydd yn y tail organig; a
(b)
cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
(i)
faint o ffosffad (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir), a
(ii)
y mis arfaethedig ar gyfer taenu.
Mapiau risg – gofynion ychwanegol
11.
(1)
Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 11 (mapiau risg), rhaid i’r map risg—
(a)
dangos pob cae wedi ei farcio â rhif cyfeirnod neu rif i alluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd mewn cynlluniau gwrteithio,
(b)
cyfateb i ardal amaethyddol y daliad, ac
(c)
cael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2024.
(2)
Pan fo newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar fater y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b), rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map o fewn un mis i’r newid, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
Cynnal y daliad fel daliad glaswelltir cymhwysol
12.
Rhaid i’r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod o leiaf 80% o’r ardal amaethyddol wedi ei hau â phorfa yn ystod y cyfnod perthnasol.
Cyfnod gwaharddedig ar gyfer aredig porfa ar y daliad
13.
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson—
(a)
yn aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd ar y daliad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024,
(b)
yn aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr 2024 ar y daliad pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Medi ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol, ac
(c)
yn aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd ar y daliad cyn 16 Ionawr 2024 pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol ac yn dod i ben â 15 Ionawr 2024.
Hau cnydau yn dilyn porfa ar y daliad
14.
Pan fo unrhyw borfa ar y daliad yn cael ei haredig yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid—
(a)
hau’r tir â chnwd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa, neu
(b)
hau’r tir â phorfa o fewn chwe wythnos, sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.
Cylchdro cnydau ar y daliad
15.
Ni chaiff cylchdro cnydau ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gynnwys codlysiau na phlanhigion eraill sy’n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% ohono yn feillion, neu unrhyw godlysiau eraill gyda phorfa wedi ei hau oddi tanynt.
Cofnodi maint y daliad
16.
(1)
Rhaid i’r meddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol ac ardal y borfa o fewn y daliad erbyn 1 Mawrth 2024.
(2)
Os bydd maint y daliad neu ardal y borfa o fewn iddo yn newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r cofnod o fewn un mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
Cofnod o nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan anifeiliaid
17.
(1)
Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) disgwyliedig y da byw sydd i’w cadw ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2)
Yn dilyn y gofynion i wneud cofnod yn is-baragraff (1), rhaid i’r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad (kg) mewn tail y disgwylir i’r da byw ar y daliad ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) yn Atodlen 1.
(3)
Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2024.
Tail da byw y bwriedir ei anfon o’r daliad
18.
(1)
Rhaid i’r meddiannydd—
(a)
gwneud cofnod o fath a maint y tail da byw (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys) y bwriedir ei anfon o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(b)
asesu a chofnodi maint y nitrogen (kg) sydd yn y tail da byw a gofnodir o dan baragraff (a) yn unol â rheoliad 36(4) a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.
(2)
Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud erbyn 1 Mawrth 2024.
Cofnodion o’r cnydau a heuwyd
19.
Yn ogystal â gofynion rheoliad 39 (cofnodion o’r cnydau a heuwyd), os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r meddiannydd o fewn un wythnos i hau cnwd gofnodi—
(a)
y cnwd a heuir, a
(b)
dyddiad ei hau.
Cofnodion o daenu gwrtaith ffosffad
20.
Yn ogystal â gofynion rheoliad 40 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
(a)
o fewn un wythnos i daenu tail organig, gyfanswm y cynnwys ffosfforws (kg), a
(b)
o fewn un wythnos i daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—
(i)
dyddiad ei daenu, a
(ii)
maint y ffosffad a daenwyd (kg).
Cofnodi’r dyddiad aredig
21.
Yn ogystal â gofynion rheoliad 41 (cofnodion dilynol), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi o fewn un wythnos i aredig porfa ar y daliad ddyddiad yr aredig hwnnw.
Cyfrifon gwrteithio
22.
(1)
Rhaid i’r meddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y cyfnod perthnasol i CNC erbyn 31 Mawrth 2025.
(2)
Rhaid cyflwyno’r cyfrifon gwrteithio i CNC drwy e-bost.
(3)
Rhaid i’r cyfrif gwrteithio gofnodi—
(a)
cyfanswm ardal amaethyddol y daliad mewn hectarau;
(b)
arwynebedd y daliad mewn hectarau a orchuddir gan—
(i)
gwenith y gaeaf,
(ii)
gwenith y gwanwyn,
(iii)
haidd y gaeaf,
(iv)
haidd y gwanwyn,
(v)
rêp had olew y gaeaf,
(vi)
betys siwgr,
(vii)
tatws,
(viii)
indrawn porthi,
(ix)
porfa, a
(x)
cnydau eraill;
(c)
nifer a chategori yr anifeiliaid a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol yn unol â’r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(d)
maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(e)
maint (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys), math a nodweddion y tail da byw a anfonwyd o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(f)
maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(e), wedi ei gyfrifo yn unol ag Atodlen 1;
(g)
pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(h)
pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl stociau gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(i)
pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol;
(j)
pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol.
Mesurau diogelu pridd
23.
(1)
Rhaid i’r meddiannydd ddiogelu yr holl bridd drwy sicrhau bod yr holl dir wedi ei orchuddio â chnydau, soflau, gweddillion neu lystyfiant arall bob amser, ac eithrio pan fyddai sefydlu gorchudd o’r fath yn creu risg sylweddol o erydiad pridd a risg sylweddol y bydd nitrogen a ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb.
(2)
Pan fo tir wedi ei gynaeafu gan ddefnyddio dyrnwr medi, cynaeafwr porthiant neu beiriant torri porfa, rhaid i’r meddiannydd sicrhau y bodlonir un o’r amodau a ganlyn ar y tir hwnnw bob amser, drwy gydol y cyfnod perthnasol sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024—
(a)
bod sofl y cnwd a gynaeafwyd yn dal yn y tir, neu
(b)
bod y tir yn cael ei baratoi fel gwely hadau ar gyfer cnwd neu gnwd gorchudd dros dro o fewn 14 o ddiwrnodau i gynaeafu, gan ddechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu, ac—
(i)
bod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau o fewn cyfnod o 10 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl i’r gwely hadau gael ei baratoi yn derfynol, neu
(ii)
pe bai hau o fewn y cyfnod hwnnw o 10 niwrnod yn arwain at risg sylweddol o erydu pridd, ac o nitrogen neu ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb, fod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r tir beidio â bod yn ddyfrlawn.
Lleoliadau safleoedd bwydo ac yfed atodol ar gyfer da byw
24.
(1)
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster bwydo atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 20 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
(2)
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster yfed atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 10 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
Taenu slyri yn ystod y cyfnod perthnasol
25.
Os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu slyri ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid defnyddio cyfarpar taenu manwl ac eithrio pan na fyddai’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
Taenu tail organig ger dŵr wyneb yn ystod y cyfnod perthnasol
26.
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson, yn ystod y cyfnod perthnasol, yn taenu tail organig o fewn 15 metr i ddŵr wyneb oni bai ei fod yn defnyddio cyfarpar taenu manwl ac os felly ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb.
ATODLEN 2Rhywogaethau o ffrwythau
Enw Botanegol | Enw Cyffredin |
|---|---|
Cydonia oblonga | Cwins |
Malus domestica | Afalau |
Mespilus germanica | Afalau tindwll |
Morus spp. | Mwyar Mair |
Prunus armenaica | Bricyll |
Prunus avium | Ceirios melys |
Prunus cerasus | Ceirios duon (coginio) |
Prunus ceracifera | Eirin myrobalan |
Prunus domestica | Eirin |
Prunus domestica subsp. insititia | Eirin hirion |
Prunus persica | Eirin gwlanog |
Prunus persica var. nectarina | Nectarinau |
Prunus x gondouinii | Ceirios y Dug |
Prunus spinosa | Eirin duon bach |
Pyrus communis | Gellyg |
Pyrus pyrifolia | Gellyg Asia |
ATODLEN 3Cyfrifo’r nitrogen sydd mewn tail organig
RHAN 1Y Tabl Safonol
Tail ac eithrio slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg) |
|---|---|
Tail ac eithrio slyri o’r anifeiliaid a ganlyn— | |
gwartheg: | 6 |
moch: | 7 |
defaid: | 7 |
hwyaid: | 6.5 |
ceffylau: | 7 |
geifr: | 6 |
Tail o ieir dodwy: | 19 |
Tail o dyrcwn neu ieir brwylio: | F530 |
Slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob metr ciwbig (kg) |
|---|---|
gwartheg: | 2.6 |
moch: | 3.6 |
Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn hylifol)— | |
blwch hidlo: | 1.5 |
wal hidlo: | 2 |
hidl fecanyddol: | 3 |
Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn solet): | 4 |
Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn hylifol): | 3.6 |
Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn solet): | 5 |
Dŵr budr: | 0.5 |
RHAN 2Samplu a dadansoddi tail organig
Slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arall
1.
(1)
O ran slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arall, rhaid cymryd o leiaf bum sampl, pob un ohonynt yn 2 litr.
(2)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid cymryd y pum sampl allan o lestr, ac—
(a)
os yw’n rhesymol ymarferol, rhaid cymysgu’r slyri’n drwyadl cyn cymryd y samplau, a
(b)
rhaid cymryd pob sampl o le gwahanol.
(3)
Os defnyddir tancer sydd â falf addas arno ar gyfer taenu, caniateir i’r samplau gael eu cymryd wrth daenu, a rhaid cymryd pob sampl fesul ysbaid yn ystod y taenu.
(4)
Pa un a gymerwyd y samplau fel y disgrifir yn is-baragraff (2) neu (3), rhaid arllwys y pum sampl i mewn i gynhwysydd mwy, eu troi’n drwyadl, a rhaid cymryd sampl 2 litr allan o’r cynhwysydd hwnnw ac arllwys y sampl honno i gynhwysydd glân, llai o faint.
(5)
Yna, rhaid anfon y sampl 2 litr a baratowyd yn unol ag is-baragraff (4) i’w dadansoddi.
Tail solet
2.
(1)
O ran tail solet, rhaid cymryd y samplau allan o domen dail.
(2)
Rhaid cymryd o leiaf ddeg sampl 1 kg yr un, a phob un ohonynt o fan gwahanol mewn tomen.
(3)
Rhaid cymryd pob un o’r is-samplau 0.5 metr, o leiaf, o wyneb y domen.
(4)
Os cesglir y samplau i gyfrifo i ba raddau y cydymffurfiwyd â’r terfyn fferm gyfan ar gyfer moch a dofednod, rhaid cymryd pedair sampl i’w dadansoddi mewn blwyddyn galendr (gan gymryd un ym mhob chwarter) o domenni tail nad ydynt yn hŷn na 12 mis oed.
(5)
Rhaid gosod yr is-samplau ar hambwrdd neu ddalen sy’n lân a sych.
(6)
Rhaid i unrhyw dalpiau gael eu torri’n ddarnau mân, a rhaid cymysgu’r is-samplau yn drwyadl gyda’i gilydd.
(7)
Yna, rhaid i sampl gynrychiadol, sy’n pwyso 2 kg o leiaf, gael ei hanfon i’w dadansoddi.
ATODLEN 4Y cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig
ATODLEN 5Y gofynion ar gyfer seilos
1.
Y gofyniad sydd i’w fodloni mewn perthynas â seilo yw ei fod yn cydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon.
2.
Rhaid i sylfaen y seilo—
(a)
ymestyn y tu hwnt i unrhyw furiau sydd i’r seilo,
(b)
cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw elifiant silwair sy’n dianc o’r seilo, ac
(c)
bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r elifiant hwnnw o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.
3.
Ni chaiff tanc elifiant dal llai nag—
(a)
yn achos seilo sy’n dal llai na 1,500 o fetrau ciwbig, 20 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal, a
(b)
yn achos seilo sy’n dal 1,500 o fetrau ciwbig neu fwy, 30 o fetrau ciwbig ac yn ychwanegol 6.7 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal uwchlaw 1,500 o fetrau ciwbig.
4.
(1)
Rhaid i sylfaen y seilo—
(a)
(b)
(2)
Rhaid i sylfaen y seilo, sylfaen a muriau ei danc elifiant a sianelau a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.
5.
Rhaid i sylfaen a muriau’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau a muriau unrhyw bibellau, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol, allu gwrthsefyll ymosodiad gan elifiant silwair.
6.
Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r seilo, ei danc elifiant na’i sianelau nac unrhyw bibellau o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc.
7.
Os oes gan y seilo furiau cynnal—
(a)
(b)
ni chaniateir i’r seilo bod wedi ei lwytho ar unrhyw adeg i ddyfnder sydd uwchlaw’r dyfnder eithaf sy’n gyson â’r rhagdybiaeth ddyluniol a wnaed o ran llwythi y muriau cynnal, ac
(c)
rhaid arddangos hysbysiadau ar y muriau cynnal yn unol â pharagraff 18 o’r cod ymarfer hwnnw.
8.
Yn ddarostyngedig i baragraff 9, rhaid i’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau ac unrhyw bibellau fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 5 ac, os yw’n gymwys, paragraff 7(a) am o leiaf 20 mlynedd.
9.
Os oes unrhyw ran o danc elifiant islaw wyneb y tir, rhaid i’r tanc fod wedi ei ddylunio a’i adeiladu fel ei fod yn debygol o barhau i fodloni gofynion paragraffau 4 a 5 am o leiaf 20 mlynedd heb waith cynnal a chadw.
ATODLEN 6Y gofynion ar gyfer systemau storio slyri
1.
Mae’r gofynion sydd i’w bodloni mewn perthynas â system storio slyri fel a ganlyn.
2.
Rhaid i sylfaen y tanc storio slyri, sylfaen a muriau unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.
3.
4.
Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri ac unrhyw bydew derbyn allu gwrthsefyll llwythi nodweddiadol sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 5 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993.
5.
(1)
Rhaid bod gan unrhyw gyfleusterau a ddefnyddir i storio slyri dros dro cyn iddo gael ei drosglwyddo i danc storio slyri ddigon o le i storio—
(a)
yr uchafswm o slyri (gan ddiystyru unrhyw slyri a fydd yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i danc storio slyri) sy’n debygol o gael ei gynhyrchu yn y fangre mewn unrhyw gyfnod o ddau ddiwrnod, neu
(b)
swm llai y mae F6CNC wedi cytuno’n ysgrifenedig ei fod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.
(2)
Pan fo slyri yn llifo i mewn i sianel cyn cael ei ollwng i bydew derbyn a bod llif y slyri allan o’r sianel yn cael ei reoli gan lifddor, rhaid i’r hyn y gall y pydew derbyn ei ddal fod yn ddigonol i ddal yr uchafswm o slyri y gellir ei ollwng drwy agor y llifddor.
6.
Yn achos tanciau storio slyri sydd â muriau wedi eu gwneud o bridd, rhaid i’r tanc fod ag o leiaf 750 mm o fwrdd rhydd, a 300 mm o fwrdd rhydd ym mhob achos arall.
7.
Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r tanc storio slyri, nac unrhyw danc elifiant na sianelau na phydew derbyn o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai slyri fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc oni chymerir rhagofalon y mae F6CNC wedi cytuno’n ysgrifenedig eu bod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.
8.
Rhaid i’r tanc storio slyri ac unrhyw danc elifiant, sianelau, pibellau a phydew derbyn fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 4 am o leiaf 20 mlynedd.
9.
Os nad yw muriau’r tanc storio slyri yn anhydraidd, rhaid i sylfaen y tanc—
(a)
ymestyn y tu hwnt i’r muriau;
(b)
cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw slyri sy’n dianc o’r tanc;
(c)
bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r slyri o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.
10.
(1)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os oes pibell ddraenio wedi ei gosod yn y tanc storio slyri neu yn unrhyw danc elifiant neu bydew derbyn, rhaid bod dwy falf mewn cyfres ar y bibell a bod pellter o 1 metr o leiaf rhwng un falf a’r llall.
(2)
Rhaid i bob falf allu cau llif y slyri drwy’r bibell a rhaid eu cadw wedi eu cau ac wedi eu cloi yn y safle hwnnw pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
(3)
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â thanc storio slyri sy’n draenio drwy’r bibell i danc storio slyri arall os yw’r tanc arall yn dal yr un faint neu fwy neu os yw topiau’r tanciau ar yr un lefel â’i gilydd.