ATODLEN 3Cyfrifo’r nitrogen sydd mewn tail organig
RHAN 1Y Tabl Safonol
Tail ac eithrio slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg) |
|---|---|
Tail ac eithrio slyri o’r anifeiliaid a ganlyn— | |
gwartheg: | 6 |
moch: | 7 |
defaid: | 7 |
hwyaid: | 6.5 |
ceffylau: | 7 |
geifr: | 6 |
Tail o ieir dodwy: | 19 |
Tail o dyrcwn neu ieir brwylio: | F130 |
Slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob metr ciwbig (kg) |
|---|---|
gwartheg: | 2.6 |
moch: | 3.6 |
Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn hylifol)— | |
blwch hidlo: | 1.5 |
wal hidlo: | 2 |
hidl fecanyddol: | 3 |
Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn solet): | 4 |
Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn hylifol): | 3.6 |
Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn solet): | 5 |
Dŵr budr: | 0.5 |
RHAN 2Samplu a dadansoddi tail organig
Slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arall
1.
(1)
O ran slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arall, rhaid cymryd o leiaf bum sampl, pob un ohonynt yn 2 litr.
(2)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid cymryd y pum sampl allan o lestr, ac—
(a)
os yw’n rhesymol ymarferol, rhaid cymysgu’r slyri’n drwyadl cyn cymryd y samplau, a
(b)
rhaid cymryd pob sampl o le gwahanol.
(3)
Os defnyddir tancer sydd â falf addas arno ar gyfer taenu, caniateir i’r samplau gael eu cymryd wrth daenu, a rhaid cymryd pob sampl fesul ysbaid yn ystod y taenu.
(4)
Pa un a gymerwyd y samplau fel y disgrifir yn is-baragraff (2) neu (3), rhaid arllwys y pum sampl i mewn i gynhwysydd mwy, eu troi’n drwyadl, a rhaid cymryd sampl 2 litr allan o’r cynhwysydd hwnnw ac arllwys y sampl honno i gynhwysydd glân, llai o faint.
(5)
Yna, rhaid anfon y sampl 2 litr a baratowyd yn unol ag is-baragraff (4) i’w dadansoddi.
Tail solet
2.
(1)
O ran tail solet, rhaid cymryd y samplau allan o domen dail.
(2)
Rhaid cymryd o leiaf ddeg sampl 1 kg yr un, a phob un ohonynt o fan gwahanol mewn tomen.
(3)
Rhaid cymryd pob un o’r is-samplau 0.5 metr, o leiaf, o wyneb y domen.
(4)
Os cesglir y samplau i gyfrifo i ba raddau y cydymffurfiwyd â’r terfyn fferm gyfan ar gyfer moch a dofednod, rhaid cymryd pedair sampl i’w dadansoddi mewn blwyddyn galendr (gan gymryd un ym mhob chwarter) o domenni tail nad ydynt yn hŷn na 12 mis oed.
(5)
Rhaid gosod yr is-samplau ar hambwrdd neu ddalen sy’n lân a sych.
(6)
Rhaid i unrhyw dalpiau gael eu torri’n ddarnau mân, a rhaid cymysgu’r is-samplau yn drwyadl gyda’i gilydd.
(7)
Yna, rhaid i sampl gynrychiadol, sy’n pwyso 2 kg o leiaf, gael ei hanfon i’w dadansoddi.