RHAN 7Cyfrifiadau a chofnodion

Tail da byw a ddygwyd i’r daliad neu a anfonwyd ohono37.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i’r daliad gofnodi, o fewn un wythnos—

(a)

math a maint y tail da byw,

(b)

y dyddiad y daethpwyd â’r tail da byw i’r daliad,

(c)

maint y nitrogen sydd ynddo, a

(d)

os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr.

(2)

Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn un wythnos—

(a)

math a maint y tail da byw,

(b)

y dyddiad y’i hanfonwyd o’r daliad,

(c)

maint y nitrogen sydd ynddo,

(d)

enw a chyfeiriad y derbynnydd, ac

(e)

manylion cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.

(3)

Os nad yw maint y nitrogen sydd yn y tail da byw a ddygir i’r daliad yn hysbys, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r tail gyrraedd, a’i gofnodi o fewn un wythnos o’i ganfod.

(4)

Rhaid canfod maint cyfan y nitrogen sydd yn y tail da byw drwy ddefnyddio naill ai’r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.