xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Rheoli’r broses o daenu gwrtaith nitrogen

Taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau

14.—(1Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb oni ddefnyddir cyfarpar taenu manwl, ac yn yr achos hwnnw ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 6 metr i ddŵr wyneb.

(2Ond caniateir taenu tail da byw yno (ac eithrio slyri a thail dofednod)—

(a)os taenir ef ar dir a reolir ar gyfer bridio adar hirgoes neu fel glaswelltir lled-naturiol cyfoethog ei rywogaethau ac os yw’r tir—

(i)yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1), neu

(ii)yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005(2), neu Reoliad (EU) 1305/2013(3),

(b)os taenir ef rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref yn gynwysedig,

(c)os na thaenir ef yn uniongyrchol ar ddŵr wyneb, a

(d)os nad yw’r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.

(3Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.

(4At ddibenion y rheoliad hwn diffinnir “cyfarpar taenu manwl” fel system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd.

(2)

EUR 1698/2005.

(3)

EUR 1305/2013, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/748 a 764.