RHAN 7Cyfrifiadau a chofnodion
Cofnodi maint y daliad33.
(1)
Rhaid i feddiannydd daliad gynnal cofnod o faint cyfan y daliad wedi ei gyfrifo’n unol â rheoliad 4(3).
(2)
Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru’r cofnod hwn o fewn un mis.
Cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio34.
(1)
Rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gynnal cofnod o’r canlynol—
(a)
maint y tail y bydd y nifer disgwyliedig o anifeiliaid yn ei gynhyrchu, a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 29, gan ddefnyddio’r ffigurau yn Atodlen 1;
(b)
maint y gofod storio (llestri slyri a lloriau caled) y mae ei angen i’w gwneud yn bosibl cydymffurfio â rheoliad 29, gan gymryd i ystyriaeth—
(i)
maint y tail y bwriedir ei allforio o’r daliad,
(ii)
maint y tail y bwriedir ei daenu ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel, a
(iii)
yn achos llestr i ddal slyri, maint yr hylif ac eithrio slyri sy’n debygol o fynd i mewn i’r llestr;
(c)
maint cyfredol y gofod storio ar y daliad.
(2)
Rhaid i feddiannydd sy’n dod ag anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn mis ar ôl dod â’r anifeiliaid yno.
(3)
Os yw maint y gofod storio yn newid, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r newid o fewn wythnos.
Cofnodion blynyddol ynglŷn â storio35.
(1)
Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol y cyfeirir ato yn rheoliad 29, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio.
(2)
Rhaid i’r meddiannydd gofnodi hefyd y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.
Cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad36.
(1)
Cyn F1y dyddiad perthnasol bob blwyddyn rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r canlynol—
(a)
nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y F2cyfnod o 12 mis blaenorol , a
(b)
nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.
(2)
Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio’r Tabl yn Atodlen 1.
(3)
Fel arall, yn achos moch neu ddofednod a letyir yn barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio—
(a)
meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, neu
(b)
yn achos system cadw da byw sy’n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.
(4)
Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r cyfrifiadau a’r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.
(5)
Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o’r canlyniad.
F3(6)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfnod o 12 mis blaenorol” (“previous 12 month period”) yw—
(a)
ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr cyn y dyddiad perthnasol;
(b)
ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN—
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—
- (a)
ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 30 Ebrill;
- (b)
ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, rhodder “ F630 Ebrill 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 30 Ebrill.
Tail da byw a ddygwyd i’r daliad neu a anfonwyd ohono37.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i’r daliad gofnodi, o fewn un wythnos—
(a)
math a maint y tail da byw,
(b)
y dyddiad y daethpwyd â’r tail da byw i’r daliad,
(c)
maint y nitrogen sydd ynddo, a
(d)
os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr.
(2)
Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn un wythnos—
(a)
math a maint y tail da byw,
(b)
y dyddiad y’i hanfonwyd o’r daliad,
(c)
maint y nitrogen sydd ynddo,
(d)
enw a chyfeiriad y derbynnydd, ac
(e)
manylion cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.
(3)
Os nad yw maint y nitrogen sydd yn y tail da byw a ddygir i’r daliad yn hysbys, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r tail gyrraedd, a’i gofnodi o fewn un wythnos o’i ganfod.
(4)
Rhaid canfod maint cyfan y nitrogen sydd yn y tail da byw drwy ddefnyddio naill ai’r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.
Samplu a dadansoddi38.
Rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio samplu a dadansoddi i ganfod maint y nitrogen mewn tail organig gadw’r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.
Cofnodion o’r cnydau a heuwyd39.
Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi, o fewn wythnos i hau cnwd—
(a)
y cnwd a heuir, a
(b)
dyddiad ei hau.
Cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen40.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu tail organig rhaid i’r meddiannydd gofnodi—
(a)
y rhan y taenwyd y tail organig arni;
(b)
faint o dail organig a daenwyd;
(c)
y dyddiad neu’r dyddiadau;
(d)
y dulliau o’i daenu;
(e)
y math o dail organig;
(f)
cyfanswm y nitrogen sydd ynddo;
(g)
maint y nitrogen oedd ar gael i’r cnwd.
(2)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd rhaid i’r meddiannydd gofnodi—
(a)
dyddiad ei daenu, a
(b)
maint y nitrogen a daenwyd.
(3)
Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i feddiannydd daliad mewn unrhyw flwyddyn galendr pan fo 80 % o arwynebedd amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa, ac—
(a)
nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifeiliaid neu o ganlyniad i daenu, yn fwy na 100 kg yr hectar,
(b)
nad yw cyfanswm y nitrogen mewn gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddodir ar y daliad yn fwy na 90 kg yr hectar, ac
(c)
nad yw’r meddiannydd yn dod ag unrhyw dail organig i’r daliad.
Cofnodion dilynol41.
(1)
Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos i ganfod y cynnyrch hwnnw.
(2)
Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.
Cadw cyngor42.
Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau, ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn, am bum mlynedd.
Dal gafael ar gofnodion43.
Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau hyn gadw’r cofnod hwnnw am bum mlynedd.