4.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, yn ystod [F1unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr], na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
(2) Rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.
(3) Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir, oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori.
F2(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 4(1) wedi eu hamnewid (31.10.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (O.S. 2023/1070), rhlau. 1(2), 2(3)(a)
F2Rhl. 4(4) wedi ei hepgor (31.10.2023) yn rhinwedd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (O.S. 2023/1070), rhlau. 1(2), 2(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
4A.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol—
lle—
A yw arwynebedd y daliad (hectarau), fel y bo’n bodoli ar 1 Ionawr 2024;
Ngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw sy’n pori a ddodir ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 1 yn Atodlen 1;
Nngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw nad ydynt yn pori a ddodir ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 2 yn Atodlen 1.
(2) Pan fo meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, rhaid iddo—
(a)cyflwyno hysbysiad i CNC yn unol â rheoliad 4B, a
(b)cydymffurfio â’r gofynion rheoli maethynnau uwch yn Atodlen 1A.
(3) Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen sydd i’w daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd ac unrhyw goetir (oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori).
Diwygiadau Testunol
4B.—(1) Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn gynnwys—
(a)enw meddiannydd y daliad glaswelltir cymhwysol,
(b)cyfeiriad y daliad glaswelltir cymhwysol,
(c)datganiad ysgrifenedig bod y meddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, a
(d)datganiad ysgrifenedig y bydd y meddiannydd yn cydymffurfio â’r gofynion ychwanegol a nodir yn Atodlen 1A.
(2) Rhaid cyflwyno hysbysiad i CNC erbyn 31 Mawrth 2024 a rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad glaswelltir cymhwysol fynd gydag ef.
(3) Rhaid cyflwyno’r hysbysiad a’r cynllun rheoli maethynnau uwch sy’n mynd gydag ef i CNC drwy e-bost.]
Diwygiadau Testunol
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad yn fwy na 250 kg.
(2) Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig, yn gyfan gwbl ar ffurf compost ardystiedig, a ddodir ar unrhyw hectar penodol o’r daliad, yn fwy nag—
(a)1000 kg mewn unrhyw gyfnod o bedair blynedd os dodir ef fel tomwellt ar dir perllan, neu
(b)500 kg mewn unrhyw gyfnod o ddwy flynedd os dodir ef ar unrhyw dir arall.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), rhaid cyfrifo cyfanswm y nitrogen mewn tail organig drwy gyfeirio at y dulliau a ddisgrifir yn rheoliad 9 ar gyfer cadarnhau’r cynnwys nitrogen.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “tir perllan” yw tir y tyfir arno unrhyw ffrwyth a restrir yn Atodlen 2;
(b)ystyr “compost ardystiedig” yw compost gwyrdd neu gompost gwyrdd/bwyd y mae’r cyflenwr yn cadarnhau mewn ysgrifen ei fod yn bodloni’r safonau a bennir yn y cyhoeddiad PAS 100:2011 ar ddeunyddiau a gompostiwyd, dyddiedig Ionawr 2011 ac nad yw’n cynnwys unrhyw dail da byw;
(c)rhaid i’r meddiannydd gadw cadarnhad ysgrifenedig fod y tail organig yn cydymffurfio ag is-baragraff (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)