NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021, Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (“y Gorchmynion Cychwyn”) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchmynion Cychwyn wedi eu diwygio fel bod adran 16 o’r Ddeddf (diwygiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) yn dod i rym yn llawn ar 1 Medi 2021, a pharagraff 24(4) o’r Atodlen i’r Ddeddf yn dod i rym yn llawn ar 22 Mehefin 2021.