RHAN 2GRANTIAU MYFYRWYR ANABL

PENNOD 1DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20175

Yn rheoliad 88 (grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl)—

a

yn lle paragraff (3) rhodder—

3

Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

a

£31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a

b

y gwariant ychwanegol yr eir iddo—

i

yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a

ii

yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.

b

ym mharagraff (4), yn lle “baragraffau (5) a (6)” rhodder “baragraff (6)”;

c

hepgorer paragraff (5);

d

ym mharagraff (6), yn lle “mharagraff (3)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 82(4) ddigwydd” rhodder “mharagraff (3)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 82(4) yn digwydd”.