RHAN 2GRANTIAU MYFYRWYR ANABL

PENNOD 1DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

2.

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20173 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 7.

3.

Yn rheoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl)—

(a)

yn lle paragraff (3) rhodder—

“(3)

Rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)

£31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a

(b)

y gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(i)

yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a

(ii)

yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;

(b)

ym mharagraff (6), yn lle “baragraffau (7) ac (8)” rhodder “baragraff (8)”;

(c)

hepgorer paragraff (7);

(d)

ym mharagraff (8), yn lle “mharagraff (3)(a), (c) a (d), mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd” rhodder “mharagraff (3)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 23(12) yn digwydd”.

4.

Yn rheoliad 71 (grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl)—

(a)

yn lle paragraff (8) rhodder—

“(8)

Rhaid i swm y grant o dan y rheoliad hwn beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)

£31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a

(b)

y gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(i)

yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a

(ii)

yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;

(b)

ym mharagraff (9), yn lle “baragraffau (10) ac (11)” rhodder “baragraff (11)”;

(c)

hepgorer paragraff (10);

(d)

ym mharagraff (11), yn lle “mharagraff (8)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 65(4) ddigwydd” rhodder “mharagraff (8)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 65(4) yn digwydd”.

5.

Yn rheoliad 88 (grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl)—

(a)

yn lle paragraff (3) rhodder—

“(3)

Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)

£31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a

(b)

y gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(i)

yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a

(ii)

yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;

(b)

ym mharagraff (4), yn lle “baragraffau (5) a (6)” rhodder “baragraff (6)”;

(c)

hepgorer paragraff (5);

(d)

ym mharagraff (6), yn lle “mharagraff (3)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 82(4) ddigwydd” rhodder “mharagraff (3)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 82(4) yn digwydd”.

6.

Yn rheoliad 110 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys), ym mharagraff (8), yn lle “117(3)(c)(ii)” rhodder “117(2)(b)(ii)”.

7.

Yn rheoliad 117 (swm y grant)—

(a)

yn lle paragraff (2) rhodder—

“(2)

Rhaid i’r grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)

£31,831 mewn perthynas â gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr; a

(b)

y gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(i)

yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)

yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs, ar unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;

(b)

yn lle paragraff (3) rhodder—

“(3)

At ddibenion y Rhan hon, ystyr y “mathau o wariant cymwys” yw’r gwariant a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) a (b).”;

(c)

ym mharagraff (4), yn lle “baragraffau (5) a (6)” rhodder “baragraff (6)”;

(d)

hepgorer paragraff (5);

(e)

ym mharagraff (6), yn lle “at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a) ac (c) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd” rhodder “at y dibenion a bennir ym mharagraff (2)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 111(2) yn digwydd”.