NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”),

(b)

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”),

(c)

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Graddau Doethurol”), a

(d)

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Graddau Meistr”).

Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018. Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018.

Mae rheoliadau 2 i 7 yn amnewid y symiau a’r dull cyfrifo yn rheoliadau 24, 71, 88, 110 a 117 o Reoliadau 2017 ynghylch grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl, grantiau at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl a grantiau at gostau byw myfyrwyr ôl-raddedig anabl.

Mae rheoliadau 8 i 12 yn amnewid y symiau a’r dull cyfrifo yn rheoliad 63 o Reoliadau 2018 ac Atodlen 4 iddynt ynghylch y grant myfyriwr anabl a’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl. Mae rheoliad 12 yn dileu diffiniad yn Atodlen 7 i Reoliadau 2018 nad oes ei angen mwyach.

Mae rheoliadau 13 i 25 yn amnewid ffigurau yn rheoliadau 16, 19, 26, 27, 28, 43, 45, 50, 56, 91, 92 a 93 o Reoliadau 2017 ynghylch grantiau a benthyciadau at ffioedd dysgu a benthyciadau at gostau byw ar gyfer myfyrwyr llawnamser a grantiau ar gyfer dibynyddion myfyrwyr llawnamser a rhan-amser fel ei gilydd.

Mae rheoliadau 26 i 34 yn amnewid ffigurau yn rheoliadau 55, 56, 57, 58, 58A, 72, 74 ac 76 o Reoliadau 2018 ynghylch benthyciadau cynhaliaeth a grantiau ar gyfer dibynyddion myfyrwyr llawnamser a rhan-amser fel ei gilydd.

Mae’r Rheoliadau Graddau Doethurol yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig. Mae rheoliad 36 yn amnewid ffigurau yn rheoliad 13 o’r Rheoliadau Graddau Doethurol ynghylch swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.

Mae’r Rheoliadau Graddau Meistr yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019. Mae rheoliadau 38 a 39 yn amnewid ffigurau yn rheoliadau 31 ac 36 o’r Rheoliadau Graddau Meistr. Mae rheoliad 38 yn cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyriwr cymwys a charcharorion cymwys. Mae rheoliad 39 yn cynyddu’r ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo’r grant cyfrannu at gostau a’r benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys pan fydd yn peidio â bod yn garcharor cymwys.

Mae rheoliadau 40 i 43 yn diwygio rheoliadau 2 ac 81 o Reoliadau 2017 ac Atodlen 7 iddynt. Mae’r diwygiadau yn ymwneud â’r cyfyngiadau ar y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig rhan-amser ac mae eu hangen o ganlyniad i gyflwyno fersiwn newydd o’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin. Mae rheoliadau 44 i 47 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i reoliad 25 o Reoliadau 2018 ac Atodlenni 5A a 7 iddynt.