Diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd2.

(1)

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)

yn y lle priodol, mewnosoder “ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;”;

(b)

yn y diffiniad o “gofyniad i ddarparu gwybodaeth” (“requirement to provide information”), yn lle “Rhan 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020” rhodder “rheoliad 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”;

(c)

yn y diffiniad o “gofyniad i ynysu” (“requirement to isolate”), yn lle “Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020” rhodder “rheoliad 7 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”.

(3)

Yn rheoliad 3 (darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestru)—

(a)

yn lle paragraff (2)(a) rhodder—

“(a)

yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith ar-lein—

(i)

yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn archebu,

(ii)

dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)

dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iv)

(b)

yn lle paragraff (2)(b) rhodder—

“(b)

yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn cofrestru ar gyfer taith ar-lein—

(i)

yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn cofrestru,

(ii)

dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)

dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iv)

(c)

yn lle paragraff 2(c)(ii) rhodder—

“(ii)

pan ddarperir gwybodaeth yn ysgrifenedig, hysbysiad ysgrifenedig sy’n nodi—

(aa)

y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,

(bb)

y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ac

(cc)

y gofyniad i ynysu;”;

(d)

ym mharagraff (2)(d), yn lle “cais” rhodder “cais ysgrifenedig”.

(4)

Yn rheoliad 3A (darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael)—

(a)

ym mharagraff (4)(a), ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—

“(v)

yn hysbysu P am y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;”;

(b)

yn lle paragraff (4)(b) rhodder—

“(b)

pan ddarperir yr wybodaeth drwy’r e-bost—

(i)

yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen,

(ii)

dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)

dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iv)

(5)

Yn lle Rhan 1 o’r Atodlen (yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c)), rhodder—

“RHAN 1

Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), (3)(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—

“ESSENTIAL INFORMATION TO ENTER THE UK

The United Kingdom is taking steps to help stop the spread of COVID-19.

1) All persons (including UK nationals and residents) arriving in the UK from outside the common travel area must provide proof of a negative COVID-19 test taken within 3 days of departure to the UK. For further information please visit: https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales

2) To protect your health and others’, everyone must complete an online passenger locator form before arrival in the United Kingdom.

3) All arrivals must self-isolate for 10 days unless exempt. Check the list of exempt countries immediately before travel and the list of work related exemptions if travelling for work.

4) It is a legal requirement that you wear a face covering on public transport in the UK.

5) If you self-isolate in England, you may opt in to Test to Release. For further information please visit www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel.

Failure to comply with these measures is a criminal offence and you could be fined. Please visit www.gov.uk/uk-border-control for detailed public health advice and requirements for entering the UK.””.