Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
am 3.08 p.m. ar 22 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 5.30 p.m. ar 22 Ionawr 2021
Yn dod i rym
am 4.00 a.m. ar 23 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1) .
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 23 Ionawr 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd” (“the Public Health Information Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020(2);
ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(3).
2.—(1) Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)yn y lle priodol, mewnosoder “ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;”;
(b)yn y diffiniad o “gofyniad i ddarparu gwybodaeth” (“requirement to provide information”), yn lle “Rhan 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020” rhodder “rheoliad 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”;
(c)yn y diffiniad o “gofyniad i ynysu” (“requirement to isolate”), yn lle “Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020” rhodder “rheoliad 7 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”.
(3) Yn rheoliad 3 (darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestru)—
(a)yn lle paragraff (2)(a) rhodder—
“(a)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith ar-lein—
(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn archebu,
(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iii)dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iv)dolen i www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(v)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, ac
(vi)dolen i https://gov.wales/exemptions-self-isolation-coronavirus-covid-19-html;”;
(b)yn lle paragraff (2)(b) rhodder—
“(b)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn cofrestru ar gyfer taith ar-lein—
(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn cofrestru,
(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iii)dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iv)dolen i www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(v)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, ac
(vi)dolen i https://gov.wales/exemptions-self-isolation-coronavirus-covid-19-html;”;
(c)yn lle paragraff 2(c)(ii) rhodder—
“(ii)pan ddarperir gwybodaeth yn ysgrifenedig, hysbysiad ysgrifenedig sy’n nodi—
(aa)y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,
(bb)y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ac
(cc)y gofyniad i ynysu;”;
(d)ym mharagraff (2)(d), yn lle “cais” rhodder “cais ysgrifenedig”.
(4) Yn rheoliad 3A (darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael)—
(a)ym mharagraff (4)(a), ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—
“(v)yn hysbysu P am y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;”;
(b)yn lle paragraff (4)(b) rhodder—
“(b)pan ddarperir yr wybodaeth drwy’r e-bost—
(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen,
(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iii)dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iv)dolen i www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(v)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, ac
(vi)dolen i https://gov.wales/exemptions-self-isolation-coronavirus-covid-19-html;”.
(5) Yn lle Rhan 1 o’r Atodlen (yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c)), rhodder—
Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), (3)(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—
“ESSENTIAL INFORMATION TO ENTER THE UK
The United Kingdom is taking steps to help stop the spread of COVID-19.
1) All persons (including UK nationals and residents) arriving in the UK from outside the common travel area must provide proof of a negative COVID-19 test taken within 3 days of departure to the UK. For further information please visit: https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales
2) To protect your health and others’, everyone must complete an online passenger locator form before arrival in the United Kingdom.
3) All arrivals must self-isolate for 10 days unless exempt. Check the list of exempt countries immediately before travel and the list of work related exemptions if travelling for work.
4) It is a legal requirement that you wear a face covering on public transport in the UK.
5) If you self-isolate in England, you may opt in to Test to Release. For further information please visit www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel.
Failure to comply with these measures is a criminal offence and you could be fined. Please visit www.gov.uk/uk-border-control for detailed public health advice and requirements for entering the UK.””.
3.—(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), hepgorer paragraffau 2(g), 3 a 5.
(3) Ym mharagraff 3(1)(e) o Atodlen 1A (profion cyn cyrraedd Cymru), ar ôl “ailddechrau gweithio” mewnosoder—
“,
(f)aelod o griw awyren sy’n cael ei gludo ar hediad at ddiben cyflawni dyletswyddau sydd i’w haseinio gan y gweithredwr neu’r peilot sydd â rheolaeth o’r awyren, er budd diogelwch yr awyren, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.”
4.—(1) Mae Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) 2021(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (dehongli)—
(a)hepgorer y diffiniad o “prawf cymhwysol”;
(b)yn y diffiniad o “teithiwr perthnasol”, ar ôl “hysbysiad” mewnosoder “dilys o ganlyniad negyddol o brawf cymhwysol”;
(c)yn lle’r diffiniad o “hysbysiad gofynnol” rhodder—
“ystyr “hysbysiad gofynnol” (“required notification”) yw hysbysiad o ganlyniad prawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg—
enw’r person y cymerwyd sampl y prawf ohono,
dyddiad geni neu oed y person hwnnw,
canlyniad negyddol y prawf hwnnw,
y dyddiad y casglwyd sampl y prawf neu’r dyddiad y cafodd darparwr y prawf ef,
enw darparwr y prawf a gwybodaeth sy’n ddigonol i gysylltu â’r darparwr hwnnw,
enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf; ”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3.08 p.m. ar 22 Ionawr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr”) yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru (“gweithredwyr”) i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodol i deithwyr. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr fel bod yr wybodaeth benodol honno’n cynnwys gwybodaeth am y gofyniad o dan reoliad 6A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol am y coronafeirws.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn:
(a)lleihau hynny o wybodaeth am deithiwr y mae’n ofynnol i bobl sy’n teithio i Gymru ei darparu er mwyn cydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; a
(b)ychwanegu esemptiad rhag y gofyniad i griw awyren sy’n cyflawni dyletswyddau ar fwrdd awyren er budd diogelwch yr awyren, fel llwythfeistri, feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol am y coronafeirws.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48 (Cy. 11)) fel nad yw’n ofynnol i weithredwyr sicrhau bod hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol am y coronafeirws ar ffurf “prawf cymhwysol”, h.y. prawf sy’n bodloni’r safonau a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae’n ofynnol i weithredwyr wirio bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o brawf coronafeirws sy’n cynnwys gwybodaeth benodedig, ond y teithiwr sy’n atebol am sicrhau bod y canlyniad yn dod o brawf cymhwysol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/595 (Cy. 136) a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/714 (Cy.160), O.S. 2020/1118 (Cy.253) ac O.S. 2020/1521 (Cy. 325).
O.S. 2020/574 (Cy. 132) a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), S.I 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295), O.S. 2020/1362 (Cy. 301), O.S. 2020/1477 (Cy. 316), O.S. 2020/1521 (Cy. 325), O.S. 2020/1602 (Cy. 332), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/24 (Cy. 8), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/48 (Cy. 11) ac O.S. 2021/50 (Cy. 12).