xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1179) (Cy. 238) (“Rheoliadau 2018”).

Mae’r Rheoliadau yn gwneud addasiadau, o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, i ffioedd penodol sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arolygu mewnforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill.

Yn benodol—

(a)mae’r ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr mewn cysylltiad â phob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda llwyth yn cael ei rhannu’n ffioedd ar wahân sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwiriad dogfennol a gwiriad adnabod (rheoliad 2(2)(a) a (b));

(b)mae Atodlen 1A newydd wedi ei mewnosod yn Rheoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, y Swistir neu Liechtenstein, gan gynnwys y rheini sy’n ddarostyngedig i wiriadau llai manwl, gan adlewyrchu lefel yr arolygu, yn seiliedig ar y risgiau sy’n gysylltiedig â’r planhigion hynny, y cynhyrchion planhigion hynny neu’r gwrthrychau eraill hynny (rheoliad 2(2)(b) a (5)); ac

(c)mae Atodlen 2 wedi ei amnewid yn Rheoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer ffioedd gostyngedig mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n tarddu o drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, y Swistir neu Liechtenstein, gan adlewyrchu’r lefel bresennol o arolygu (rheoliad 2(2)(b) a (6)).

Nid yw’r ffioedd sy’n daladwy yn rhinwedd rheoliad 3(2A)(a) newydd Rheoliadau 2018 yn daladwy mewn cysylltiad â llwythi a fewnforir cyn 1 Mawrth 2022, mewn cysylltiad â phlanhigion penodol neu gynhyrchion planhigion penodol.

Mae’r ffioedd sy’n gymwys mewn cysylltiad â gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod llwythi o blanhigion penodol, cynhyrchion planhigion penodol neu wrthrychau eraill penodol o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir yn adlewyrchu cyfraddau amlder y gwiriadau hynny fel y’u nodir yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol, Iechyd Planhigion, Hadau a Thatws Hadyd (Diwygio etc.) 2021 (O.S. 2021/426).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu esemptiad rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy mewn cysylltiad ag ardystio a gwasanaethau cyn-allforio o ran llwythi ffytoiechydol o dan amgylchiadau penodol. Mae’r esemptiad yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022 (rheoliad 2(3)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.