Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021
Enwi a cychwyn
1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019
2.
(1)
(2)
“ystyr “gweithredwr proffesiynol” (“professional operator”) yw unrhyw berson, a lywodraethir gan y gyfraith gyhoeddus neu’r gyfraith breifat, sy’n ymwneud yn broffesiynol ag un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn sy’n ymwneud â phlanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill, ac sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol amdanynt—
(a)
plannu;
(b)
bridio;
(c)
cynhyrchu, gan gynnwys tyfu, lluosogi a chynnal;
(d)
cyflwyno i Ogledd Iwerddon, symud o fewn Gogledd Iwerddon a symud allan o Ogledd Iwerddon;
(e)
eu cynnig ar y farchnad;
(f)
storio, casglu, anfon a phrosesu;”.
(3)
Yn rheoliad 3—
(a)
ym mharagraff (5A), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5C),”;
(b)
“(5C)
Nid yw’r ffi a bennir yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â llwyth sydd i’w gludo i Ogledd Iwerddon—
(a)
gan berson sy’n gweithredu ac eithrio yng nghwrs busnes, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad; neu
(b)
i’w ddanfon i—
(i)
gweithredwr proffesiynol y mae ei brif fan busnes yng Ngogledd Iwerddon; neu
(ii)
unrhyw berson sy’n preswylio yng Ngogledd Iwerddon, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad na’i ddefnyddio at ddibenion unrhyw fusnes.
(5D)
Mae paragraff (5C) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022.”.
3.
Yn y tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 3 mewn perthynas â eitem 2 (Pren (ac eithrio pren ar ffurf rhisgl wedi ei wahanu, naddion coed, sglodion coed neu flawd llif)), yn y drydedd golofn (uned);
(1)
yn lle “25000KG” rhodder “100m³”; ac
(2)
yn lle “1000kg” rhodder “m³”.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraffau 21(a) a (b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497 Cy. 114) (“Rheoliadau 2019”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2019 i ddarparu esemptiad rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy i Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â cheisiadau i’r Comisiwn Coedwigaeth am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio (neu ail-allforio) mewn amgylchiadau penodol.
Mae’r esemptiad yn rheoliad 2 yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022.
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r unedau a gyfeirir atynt ar gyfer eitem 2 yn y tabl yn Atodlen 3 o Reoliadau 2019 er mwyn cywiro gwall.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Yn unol â pharagraff 12(1) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru.