Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 710 (Cy. 180)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

16 Mehefin 2021

Yn dod i rym

17 Mehefin 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(a) a (b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(2).

Enwi a cychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019

2.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o “gwaith adfer” mewnosoder—

ystyr “gweithredwr proffesiynol” (“professional operator”) yw unrhyw berson, a lywodraethir gan y gyfraith gyhoeddus neu’r gyfraith breifat, sy’n ymwneud yn broffesiynol ag un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn sy’n ymwneud â phlanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill, ac sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol amdanynt—

(a)

plannu;

(b)

bridio;

(c)

cynhyrchu, gan gynnwys tyfu, lluosogi a chynnal;

(d)

cyflwyno i Ogledd Iwerddon, symud o fewn Gogledd Iwerddon a symud allan o Ogledd Iwerddon;

(e)

eu cynnig ar y farchnad;

(f)

storio, casglu, anfon a phrosesu;.

(3Yn rheoliad 3—

(a)ym mharagraff (5A), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5C),”;

(b)ar ôl paragraff (5B), mewnosoder—

(5C) Nid yw’r ffi a bennir yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â llwyth sydd i’w gludo i Ogledd Iwerddon—

(a)gan berson sy’n gweithredu ac eithrio yng nghwrs busnes, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad; neu

(b)i’w ddanfon i—

(i)gweithredwr proffesiynol y mae ei brif fan busnes yng Ngogledd Iwerddon; neu

(ii)unrhyw berson sy’n preswylio yng Ngogledd Iwerddon, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad na’i ddefnyddio at ddibenion unrhyw fusnes.

(5D) Mae paragraff (5C) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022..

3.  Yn y tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 3 mewn perthynas â eitem 2 (Pren (ac eithrio pren ar ffurf rhisgl wedi ei wahanu, naddion coed, sglodion coed neu flawd llif)), yn y drydedd golofn (uned);

(1yn lle “25000KG” rhodder “100m³”; ac

(2yn lle “1000kg” rhodder “m³”.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

16 Mehefin 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraffau 21(a) a (b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497 Cy. 114) (“Rheoliadau 2019”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2019 i ddarparu esemptiad rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy i Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â cheisiadau i’r Comisiwn Coedwigaeth am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio (neu ail-allforio) mewn amgylchiadau penodol.

Mae’r esemptiad yn rheoliad 2 yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r unedau a gyfeirir atynt ar gyfer eitem 2 yn y tabl yn Atodlen 3 o Reoliadau 2019 er mwyn cywiro gwall.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn unol â pharagraff 12(1) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru.

(1)

2018 p. 16; gweler paragraff 8 o Atodlen 4 am ystyr “appropriate authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraffau 38 a 53(2) o Atodlen 5 iddi.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).