Mae’r Gorchymyn hwn yn amrywio Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019 (O.S. 2019/18) (Cy. 7).
O dan adran 8 o Ddeddf Plâu 1954 (p. 68), mae’n drosedd i ddefnyddio neu i ymwybodol ganiatáu defnyddio unrhyw drap sbring ac eithrio trap sydd wedi ei gymeradwyo drwy orchymyn, ar anifeiliaid neu mewn amgylchiadau nad yw wedi ei gymeradwyo ar eu cyfer.
Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu math o drap sbring at y rhai sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru, sef Perdix Spring Trap (erthygl 2(c)).
Mae’n diweddaru cyfeiriad Goodnature Ltd sy’n gweithgynhyrchu trapiau ac yn ychwanegu at y rhywogaethau targed y caniateir defnyddio dau o’r trapiau sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar eu cyfer:
bellach, caniateir hefyd ddefnyddio Goodnature A24 Rat and Stoat Trap ar gyfer pathewod bwytadwy (Glis glis) (erthygl 2(b)), a
bellach, caniateir hefyd ddefnyddio Tully Trap ar gyfer gwiwerod llwyd, pan fo fafflau ar gyfer gwiwerod llwyd wedi eu gosod arno, yn unol â’r amodau a bennir (erthygl 2(d)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.