2021 Rhif 686 (Cy. 172)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 p.m. ar 8 Mehefin 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202.

(1)

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn Atodlen 1, paragraff 4—

(a)

yn is-baragraff (2)(e), yn lle “o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre” rhodder “mewn mangre reoleiddiedig lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol”;

(b)

yn is-baragraff (2)(f)(i), hepgorer “, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo”;

(c)

ar ôl is-baragraff (2)(g) mewnosoder—

“(h)

digwyddiad a gynhelir i unrhyw raddau o dan do mewn mangre reoleiddiedig ac—

(i)

lle nad yw mwy na 6 o bobl yn bresennol, neu

(ii)

lle mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu, os yw’r fangre reoleiddiedig yn lety gwyliau neu lety teithio, o’r un aelwyd estynedig;

(i)

digwyddiad a gynhelir yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig (ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio) ac—

(i)

lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, neu

(ii)

lle mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd;

(j)

digwyddiad a gynhelir yn yr awyr agored mewn mangre nad yw’n fangre reoleiddiedig neu yn yr awyr agored mewn llety gwyliau neu lety teithio ac—

(i)

lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, neu

(ii)

lle mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.”;

(d)

ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

“(2A)

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n bresennol mewn digwyddiad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)

unrhyw blant o dan 11 oed,

(b)

gofalwr unrhyw berson sy’n bresennol, neu

(c)

unrhyw berson sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.”

Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiad yn gwneud yn glir effaith y gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau ym mharagraff 4 o Atodlen 1 i’r prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.