2021 Rhif 646 (Cy. 166)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 29 Mai 2021.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 29.5.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202.

(1)

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn lle rheoliad 12E(2)(d)(ia) (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) rhodder—

“(ia)

paragraff 7, oni bai ei fod wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i weithio, neu wedi ei ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig ar ôl gweithio, ar fwrdd llong fordeithio;

(ib)

paragraff 8;

(ic)

paragraff 9, oni bai ei fod wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i weithio, neu wedi ei ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig ar ôl gweithio, ar fwrdd llong fordeithio;

(id)

paragraff 10;”.

(3)

Yn rheoliad 20(1) (y Rheoliadau’n dod i ben), yn lle “y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y deuant i rym” rhodder “31 Mai 2022”.

Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 29.5.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 20213.

Yn rheoliad 11(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 20213 (dod i ben), yn lle “7 Mehefin 2021” rhodder “31 Mai 2022”.
Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 29.5.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 20204.

Yn rheoliad 11(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 20204 (y Rheoliadau hyn yn dod i ben), yn lle “y 7fed diwrnod o Fehefin 2021” rhodder “31 Mai 2022”.
Annotations:
Commencement Information

I4Rhl. 4 mewn grym ar 29.5.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48 (Cy. 11)) (y “Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (y “Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru o wledydd neu diriogaethau nad ydynt yn esempt ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gwahardd personau rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau hynny yn ystod y 10 niwrnod blaenorol. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn eithrio mordwywyr ac arolygwyr a syrfewyr llongau sy’n gweithio ar longau mordeithio o’r esemptiadau ar gyfer y rolau hynny rhag gofynion rheoliad 12E.

Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio’r dyddiad y mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn dod i ben.

Mae’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr yn gosod gofynion ar bersonau sy’n gweithredu gwasanaethau teithwyr rhyngwladol (“gweithredwyr”) sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin. Yn unol â’r gofynion hynny rhaid i weithredwyr, er enghraifft, sicrhau bod teithwyr sy’n teithio ar y gwasanaethau hynny yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol a’u bod wedi gwneud trefniadau i gymryd profion pellach ar ôl iddynt gyrraedd.

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn diwygio’r dyddiadau y mae’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr a’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd, yn y drefn honno, yn dod i ben.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.